Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw cyhoeddwyd gwerthusiad annibynnol o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed a weithredir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad i’w weld drwy ddilyn y ddolen isod:

http://wales.gov.uk/statistics-and-research/invest-save-fund/?skip=1&lang=cy

Nod y gronfa Buddsoddi i Arbed yw cefnogi sefydliadau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus er mwyn eu helpu nhw i drosglwyddo i weithredu dulliau mwy effeithlon, effeithiol a chynaliadwy o ddarparu gwasanaeth. Mae gwerthusiad annibynnol o’r cynllun yn gyfle i Lywodraeth Cymru asesu a yw amcanion y gronfa’n cael eu cyflawni mewn gwirionedd ai peidio. Mae hefyd yn rhoi safbwynt annibynnol a defnyddiol inni o ran pa feysydd y gellid eu gwella.

Rwy’n falch iawn o nodi bod yr adroddiad yn cadarnhau gwerth y gronfa ac yn cydnabod y manteision ariannol a’r manteision o ran cyflenwi gwasanaeth a gafwyd hyd yn hyn. Yn benodol, mae’r adroddiad yn cadarnhau bod y gronfa’n ymateb i ffactorau fel y canlynol:

  • canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth cyhoeddus gwell, gan wella’r cydweithredu rhwng gwahanol gyrff sector cyhoeddus
  • yr angen i gefnogi sefydliadau wrth iddynt sicrhau arbedion effeithlonrwydd mewn hinsawdd ariannol heriol
  • materion penodol ar lefel leol a all atal sefydliadau rhag ymgymryd â phrosiectau fydd yn gwella effeithlonrwydd ac ansawdd y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus.

Canfu’r gwerthusiad hefyd fod y gronfa wedi llwyddo i sicrhau arbedion ariannol sylweddol hyd yn hyn. Am bob £1 sy’n cael ei buddsoddi, amcangyfrifir y cynhyrchir £3 o arbedion gros  - sef elw o 300%. Mae’r adroddiad yn rhoi tystiolaeth annibynnol a chadarn fod y cynllun hwn a gyllidir gan Lywodraeth Cymru yn darparu buddiannau gwirioneddol. Mae hyn yn bwysicach fyth yn y cyfnod economaidd anodd hwn, pan mae angen inni wneud yn siŵr bod pob punt sy’n cael ei buddsoddi’n cyfrannu at ganlyniadau a safonau gwell o ran darparu gwasanaeth.

Mae deg o argymhellion yn yr adroddiad. Byddaf yn edrych yn fanwl ar ganfyddiadau’r adroddiad a’r argymhellion, ac yn adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar fy ymateb.