Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd adolygiad  o Gronfa Buddsoddi i Arbed ei gynnal gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2013. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cydnabod gwerth y Gronfa a'r cyfraniad gwerthfawr y mae'n ei wneud o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau'r sector cyhoeddus. Gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion a oedd yn anelu at wella'r broses o weithredu'r gronfa, a chafodd pob un o'r rhain eu derbyn. Un o'r prif argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor oedd y dylai gwerthusiad annibynnol o Gronfa Buddsoddi i Arbed gael ei gynnal. Cyhoeddwyd adroddiad y gwerthusiad annibynnol hwn ym mis Mai.

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn hysbysu Aelodau'r Cynulliad am ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn yr adroddiad.

Roedd yr adroddiad gwerthuso'n cadarnhau gwerth y gronfa ac yn cydnabod y manteision ariannol a'r manteision o ran cyflenwi gwasanaethau sydd wedi'u creu hyd yma. Roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod y gronfa'n ymateb yn effeithiol i ffactorau fel a ganlyn:

  • canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, gan wella'r cydweithredu rhwng gwahanol gyrff yn y sector cyhoeddus;
  • yr angen i gefnogi sefydliadau wrth iddynt sicrhau arbedion effeithlonrwydd mewn hinsawdd ariannol heriol; a
  • materion penodol ar lefel leol sy'n gallu atal sefydliadau rhag ymgymryd â phrosiectau i wella ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu darparu.

Canfu'r gwerthusiad hefyd fod y gronfa wedi llwyddo i sicrhau arbedion ariannol sylweddol hyd yma.  Am bob £1 sy’n cael ei buddsoddi, amcangyfrifir y cynhyrchir £3 o arbedion gros  - sef elw o 300%  

Neges yr adroddiad oedd bod gennym sail gadarn y gellir datblygu arni, a bod cyfle erbyn hyn i ddatblygu'r gronfa ymhellach, fel ei bod yn un o'r modelau mwyaf arloesol ac effeithiol o'i bath.  

Roedd rhai o'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad eisoes wedi'u rhoi ar waith adeg cyhoeddi'r adroddiad fel rhan o'r broses o welliant parhaus a oedd yn cael ei gweithredu gan y gronfa. Mae enghreifftiau o'r math o bethau a oedd wedi gwella yn cynnwys systemau mwy manwl, er mwyn sicrhau a monitro'r arbedion ariannol sy'n cael eu creu gan brosiectau, a dulliau gwell i ddangos y manteision ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus.      

Rwy hefyd yn falch o roi gwybod i Aelodau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol mewn ymateb i'r adroddiad:

  • datblygu datganiad ar sail resymegol a Theori Newid y Gronfa. Bydd hwn ar gael i bob unigolyn a sefydliad sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais i'r gronfa.  Bydd y datganiad hwn yn nodi'n glir beth y mae'r gronfa yn y bôn yn ceisio'i wneud, a'r materion a’r methiannau y mae’n ceisio mynd i’r afael â hwy. Bydd hwn yn ganllaw ar gyfer y broses o wneud cais ac arfarnu;  
  • archwilio sut y gall arferion da a ddatblygwyd gan rai o brosiectau Buddsoddi i Arbed gael eu mabwysiadu ar hyd a lled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cyhoeddi astudiaethau achos i ddangos y cyfleoedd sydd ar gael, er mwyn sicrhau manteision ariannol a manteision sy'n ymwneud â'r gwasanaethau a ddarperir.  Fodd bynnag, mae'r nifer sy'n manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael yn anghyson, ac rwy'n awyddus i ymdrin â'r mater hwn;
  • datblygu fframwaith canlyniadau ar gyfer mesur perfformiad sy'n gyson â'r rhai hynny mewn meysydd eraill Llywodraeth Cymru. Bydd hynny'n sicrhau bod y gronfa'n cyfrannu at flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth;
  • asesu sut gall y cymysgedd o brosiectau yn y gronfa gael ei addasu er mwyn ymgymryd â rhai prosiectau sy'n cynnig enillion sylweddol ond sydd efallai â risg uwch o ran yr hyn y gallent ei gyflawni. Fodd bynnag, bydd yr egwyddor sylfaenol o ran ad-daliadau'n cael ei chynnal.   
  
Bydd Llywodraeth Cymru'n gweithredu'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad dros y misoedd nesaf