Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhoddodd Cwpan y Byd FIFA yn 2022 gyfle unigryw i Gymru arddangos ein cenedl a chreu gwaddol barhaol.

Roedd gan Lywodraeth Cymru bedwar amcan allweddol ar gyfer Cwpan y Byd –  hyrwyddo Cymru; cyflwyno ein gwerthoedd; sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru a a bod cyfranogiad Cymru yn sicrhau gwaddol gadarnhaol. Yn rhan o'n gweithgarwch i gyflwyno Cymru i'r byd, daeth yr het bwced enfawr ar y ffordd lan mor yn Doha yn ganolbwynt i gyfryngau'r byd a chyflwynwyd rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau yn UDA, Cymru a Llundain.  

Heddiw mae adroddiad gwerthuso annibynnol o weithgareddau Cwpan y Byd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi. Mae'n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol a gafodd ein hymgyrch.

Cafodd amrywiaeth, cynwysoldeb a chyrhaeddiad y gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon a ariennir drwy Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd eu canmol gan randdeiliaid. Cynhaliwyd mwy na 2,200 o ddigwyddiadau, gyda mwy na 320,000 o bobl yn cymryd rhan, gan gynnwys bron i 250,000 o bobl ifanc. Mynychodd cyfanswm o 91,403 o ymwelwyr ddwy arddangosfa a ariannwyd gan y Gronfa Cefnogi Partneriaid.

Roedd gan randdeiliaid farn gadarnhaol am raddfa, ansawdd a chyrhaeddiad y gweithgareddau a gomisiynwyd ac a gyflwynwyd, yr ymgyrch farchnata uwch, gweithgarwch Lleisiau Cymru a digwyddiadau rhyngwladol. Gwnaethant dynnu sylw at sut y cafodd hyn ei gyflawni yn yr amser byr rhwng gem gymhwyso olaf Cymru ym mis Mehefin 2022 a dechrau'r rowndiau terfynol yn Qatar ym mis Tachwedd.

Dywedon nhw fod dull Tîm Cymru wedi dod â sefydliadau ynghyd â ffocws strategol a chydlynol. Ystyriwyd yn eang bod y dull o gyfuno diwylliant a chwaraeon wedi gwneud i Gymru sefyll allan yn Qatar ac yn UDA.

Daw'r adroddiad gwerthuso i'r casgliad bod y gweithgareddau yn ymwneud ag ymgyrch Cwpan y Byd Cymru wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer gwella proffil Cymru. Cynhyrchodd gweithgareddau'r ymgyrch farchnata uwch a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru o dan frand Cymru Wales fwy na 150 miliwn o gyfleoedd i weld cynnwys yn ymwneud â Chymru (49% yn uwch na'r targed a osodwyd) ac roedd mwy na 320,000 o bobl wedi mynychu'r 2,200 a mwy o ddigwyddiadau'r Gronfa Cefnogi Partneriaid a gweithgareddau cysylltiedig, neu gymryd rhan ynddynt. Cyrhaeddodd y digwyddiadau a'r gweithgareddau hyn gynulleidfa o fwy na 5 miliwn.

Cynyddodd traffig i wefan wales.com 600% yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd ei hun, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2021, a gafodd ei yrru gan lwybrau Llywodraeth Cymru 'y talwyd amdanynt' a thraffig 'organig'. Adroddodd rhanddeiliaid fod rhwydweithiau rhyngwladol wedi’u cryfhau mewn ystod o feysydd gan gynnwys busnes, gwyddoniaeth a'r celfyddydau ac y rhagwelir y byddai cyfleoedd buddsoddi newydd yn deillio o'r gweithgarwch hwn. Roedd rhai rhanddeiliaid yn darparu enghreifftiau o artistiaid a cherddorion penodol a oedd wedi elwa ar eu cyfranogiad yng ngweithgareddau'r Gronfa Cefnogi Partneriaid ac wedi llwyddo i gael gwaith neu gomisiynau newydd o ganlyniad i hyn. O ran twristiaeth, cynhyrchodd partneriaeth y cyfryngau gydag asiantaeth deithio ar-lein gynnydd o 49% flwyddyn ar ôl blwyddyn o gyfanswm archebion gros.

Cyfrannodd gwaith cydweithredu llwyddiannus rhwng llywodraethau Cymru a'r DU at gyflawni amcan allweddol arall yn ystod Cwpan y Byd –  sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn Qatar, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd busnesau, a gobeithiwn y gallwn adeiladu arnynt os bydd ein cais i gynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop ar y cyd yn 2028 yn llwyddiannus.

Mae'r adroddiad gwerthuso yn tynnu sylw at y ffaith bod rhanddeiliaid yn credu bod nifer o wersi pwysig wedi'u dysgu o Gwpan y Byd, gan gynnwys pwysigrwydd cyfathrebu yn iaith y gwledydd sy’n cynnal y digwyddiadau, ymgysylltu'n gynnar â chynrychiolwyr llywodraeth Cymru a'r DU, a bod presenoldeb Gweinidogion yn rhan annatod o sicrhau ymgysylltiad ag unigolion allweddol sy'n gwneud penderfyniadau.

O ran gwaddol, cafwyd effeithiau cadarnhaol yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae'r rhain wedi cynnwys cefnogi'r gwaith o greu adnoddau newydd, rhannu arbenigedd ac arferion da, a rhwydweithio. Mae'r canfyddiadau'n dangos bod rhai o'r partneriaethau rhwng sefydliadau diwylliant a chwaraeon, cyrff llywodraethu a darlledwyr yn cael eu cynnal. Ar lefel strategol, mae gweithgareddau yn Qatar ac UDA wedi cefnogi diplomyddiaeth ac adeiladu proffil Cymru, gan gynyddu ansawdd y cysylltiadau a ddatblygwyd ar lefel Weinidogol a sefydliadol.

Mae'r adroddiad gwerthuso yn argymell ailadrodd a harneisio ymhellach y dull a gymerwyd yn ystod Cwpan y Byd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfleoedd chwaraeon a diwylliannol mawr yn y dyfodol.

Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o Dîm Cymru am eu dawn, eu brwdfrydedd a'u cydweithrediad agos i arddangos Cymru fel cenedl agored a blaengar, ac fel lle gwych i wneud busnes ac i ymweld ag ef yn ystod Cwpan y Byd. Edrychaf ymlaen at gydweithio â chi eto.