Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran y cynlluniau peilot etholiadol a gafodd eu cyflawni yng Nghymru fel rhan o etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2022.

Nod y cynlluniau peilot oedd dod â’r blwch pleidleisio yn nes at fywydau pob dydd y bobl. Roeddent yn gam tuag at sicrhau bod etholiadau yng Nghymru mor hygyrch ag y bo modd, a bod pawb sydd am bleidleisio yn gallu gwneud hynny. Cawsant eu cynllunio o fewn y fframwaith a amlinellais mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf 2021: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-fframwaith-ar-gyfer-diwygio-etholiadol

Cafodd y cynlluniau peilot hyn eu datblygu drwy gydweithredu agos rhwng yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniad amhrisiadwy’r Comisiwn Etholiadol a’r gymuned etholiadol ehangach. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu holl waith caled, yn enwedig y pedwar awdurdod lleol a wnaeth gynllunio’r cynlluniau peilot a’u cynnal:

Blaenau Gwent – roedd Parth Dysgu Glynebwy, sydd mewn lleoliad canolog, yn orsaf bleidleisio ymlaen llaw i holl breswylwyr y sir, gan gynnwys myfyrwyr y coleg a oedd yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiadau. Roedd modd pleidleisio ymlaen llaw ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher cyn diwrnod yr etholiad;

Pen-y-bont ar Ogwr - mewn rhai wardiau lle mae canran isel o bobl yn bwrw eu pleidlais, roedd gorsafoedd pleidleisio ar agor ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher cyn diwrnod yr etholiad fel y gellid pleidleisio ymlaen llaw. Hefyd, cafodd gorsaf bleidleisio ymlaen llaw newydd ei chreu mewn ysgol ar y dydd Mawrth cyn diwrnod yr etholiad, a hynny i fyfyrwyr cofrestredig yr ysgol honno a oedd yn gymwys i bleidleisio yn y wardiau o dan sylw;

Caerffili – roedd pencadlys y cyngor yn Ystrad Mynach yn orsaf bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl breswylwyr y sir ar y penwythnos cyn diwrnod yr etholiad;

Torfaen – roedd swyddfeydd y cyngor ym Mhont-y-pŵl yn orsaf bleidleisio ymlaen llaw ar gyfer holl breswylwyr y sir ar y penwythnos cyn diwrnod yr etholiad.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r Comisiwn Etholiadol werthuso cynlluniau peilot etholiadol, ac yn arbennig a yw’r cynllun peilot:

  • wedi helpu i’w gwneud yn haws pleidleisio neu gyfrif y pleidleisiau
  • wedi helpu i gynyddu’r ganran a bleidleisiodd
  • wedi helpu i hwyluso pleidleisio
  • wedi arwain at ostyngiad neu gynnydd mewn twyll etholiadol
  • wedi arwain at ostyngiad neu gynnydd yng nghost yr etholiad

O ganlyniad, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi gwerthuso cynlluniau peilot mis Mai 2022, ac mae ei adroddiad, sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, ar gael yma: 

https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pwy-ydym-ni-a-beth-rydym-yn-ei-wneud/ein-safbwyntiau-hymchwil/ein-hymchwil/gwerthusiad-cynlluniau-peilot-pleidleisio-ymlaen-llaw

Mae gwerthusiad y Comisiwn Etholiadol yn adlewyrchu’r ffaith bod y cynlluniau peilot arloesol hyn wedi’u rhedeg yn dda ac nad oedd unrhyw fater wedi codi o’u cynnal. Roedd y cofrestrau electronig a gafodd eu treialu yn gweithio’n dda ac yn galluogi’r gweinyddwyr i ddarparu gorsafoedd pleidleisio â sawl lleoliad ar yr un pryd. Yn ôl y disgwyl, ni wnaeth y cynlluniau peilot gynyddu’r ganran a bleidleisiodd yn sylweddol, ond gwnaethant ddangos bod modd darparu ffyrdd hyblyg a mwy cyfleus o bleidleisio drwy ddulliau diogel a chan ennyn hyder pleidleiswyr.

Bydd y gwersi sydd wedi’u dysgu o’r cynlluniau peilot a’r gwerthusiad yn llywio gwelliannau yn y tymor hwy i’r ffordd y mae pobl yn pleidleisio, ac yn helpu i leihau’r diffyg democrataidd. Rwy’n edrych ymlaen at ymgynghori ar ein cynigion yn y misoedd nesaf.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.