Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 12 Rhagfyr 2023 cyhoeddais fod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth wedi ysgrifennu ataf yn gofyn am ymchwiliad i gael ei gynnal o dan God y Gweinidogion i honiadau a godwyd gan Aelod Seneddol Gŵyr.

Mae'r Cyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg wedi cwblhau ei ymchwiliad ac wedi llunio’i adroddiad. Rwyf wedi derbyn ei adroddiad a’i ganfyddiadau. Rwyf yn cyhoeddi'r adroddiad yn llawn heddiw.