Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Heddiw rwy’n falch o osod gerbron y Senedd y degfed adroddiad blynyddol ar y graddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith sy’n ymwneud â materion a ddatganolwyd i Gymru (dolen allanol).
O dan adran 3C o Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965, fel y’i mewnosodwyd gan adran 25 o Ddeddf Cymru 2014, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ar y graddau y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith sy’n ymwneud â materion datganoledig wedi eu gweithredu.
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod o 15 Chwefror 2024 i 14 Chwefror 2025. Mae’n rhoi diweddariad i’r Aelodau ar amryw o feysydd y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith yn ymdrin â hwy, yn ogystal â gwybodaeth am brosiectau cyfredol Comisiwn y Gyfraith a’r rhai sydd i ddod.
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn ystod y deuddeg mis a aeth heibio ar amryw o faterion a fu’n destun argymhellion gan Gomisiwn y Gyfraith. Mae hyn yn cynnwys pasio Deddf Cerbydau Awtomeiddiedig 2024 a Deddf Diwygio Lesddaliad a Rhydd-daliad 2024 a chyflwyno Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) gerbron y Senedd fis Rhagfyr diwethaf. Rydym hefyd yn parhau i fwrw ymlaen â chynigion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â thribiwnlysoedd datganoledig, cyfraith etholiadol a chyfraith cynllunio.
Mae’r diweddariad hwn a’r cynnydd a nodir yn dangos gwerth cynigion Comisiwn y Gyfraith i waith Llywodraeth Cymru.