Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog
Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw o bumed adroddiad Ymchwiliad Covid-19 y DU (Saesneg yn unig), ar gaffael a dosbarthu offer a chyflenwadau gofal iechyd allweddol yn ystod y pandemig, gan gynnwys PPE, peiriannau anadlu, ocsigen, a phecynnau profi. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Hallett, a'i thîm am eu gwaith.
Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gefnogodd ymateb Cymru i'r pandemig - gan gynnwys y GIG, gweithwyr gofal cymdeithasol, gwirfoddolwyr, gweision cyhoeddus, a'r system iechyd a gofal ehangach - a weithiodd gyda chymaint o ymroddiad o dan bwysau eithriadol.
Cafodd y pandemig effaith ddofn ar ein cymdeithas, gyda llawer o deuluoedd yn dal i fyw gyda'r gofid o golli anwyliaid.
Mae fy llywodraeth yn parhau i fod yn ymrwymedig i adolygu ymateb Cymru i Covid mewn modd sy'n rhoi'r sicrwydd y maent yn ei haeddu i deuluoedd mewn profedigaeth bod gwersi wedi'u dysgu, ac y bydd camau'n cael eu cymryd i sicrhau y byddwn wedi ymbaratoi'n well i ymateb i argyfyngau yn y dyfodol.
Mae'r ymchwiliad yn gofyn inni ymateb i adroddiad ac argymhellion Modiwl 5 o fewn chwe mis ar ôl ei gyhoeddi.
