Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid i integreiddio arferion gorau rhyngwladol i waith datblygu rhanbarthol yng Nghymru yn dilyn Brexit.

Yn 2020 cyhoeddodd yr OECD eu hadroddiad, The Future of Regional Development and Public Investment in Wales, United Kingdom. Roedd yr adroddiad hwn yn ffrwyth dwy flynedd o waith gyda Llywodraeth Cymru ar arferion buddsoddi cyhoeddus a chynllunio strategol ar gyfer gwaith datblygu rhanbarthol. Roedd gwaith yr OECD yn sail i ddatblygu Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru. Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r model a oedd i'w ddefnyddio ar gyfer cronfeydd newydd yr UE yng Nghymru, a gyd-gynhyrchid â phartneriaid ledled Cymru, pe na bai Llywodraeth y DU wedi ochrgamu heibio i Lywodraeth Cymru yn gyfan gwbl drwy greu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae prosiect diweddar Llywodraeth Cymru gyda'r OECD, Strengthening strategic and administrative capacity for delivering regional development policy, bellach wedi dod i ben. 

Roedd yn canolbwyntio ar weithredu rhai o argymhellion adroddiad 2020 i archwilio ymhellach i themâu llywodraethiant a buddsoddi cyhoeddus aml-lefel a gododd yn adroddiad 2020. Ei nod oedd cefnogi Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol ac awdurdodau lleol yng Nghymru i fynegi gweledigaeth ar gyfer datblygu rhanbarthol yng Nghymru, adeiladu partneriaeth gryfach â chyrff is-genedlaethol (rhanbarthol a lleol), ac atgyfnerthu polisi a gwasanaethau rhanbarthol a lleol. 

Mae'r gwaith hwn wedi mynd yn bwysicach fyth yn sgil y dirwedd fuddsoddi heriol ar ôl Brexit a'r pwysau ariannol rydym yn ei brofi yng Nghymru.

Ers 2019 mae Llywodraeth y DU wedi cymryd pwerau i wneud gwaith buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, gan ganoli cyllid a phenderfyniadau a arferai fod yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru ac yn destun craffu gan y Senedd. Mae hyn wedi creu haenau ychwanegol, dyblygu darpariaeth, a chreu tirwedd fuddsoddi dameidiog a dryslyd. Mae dull gweithredu Llywodraeth y DU wedi arwain at werth isel am arian ac mae wedi ei gwneud yn anodd cynllunio a gweithredu polisi sy'n cael effaith ar lefel ranbarthol.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad synthesis yr OECD ac mae'n ddiolchgar am gyfraniad ac ymdrechion y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, awdurdodau lleol a phartneriaid gweithredu Cymru yng ngwaith yr OECD i sicrhau'r gwerth gorau o arbenigedd yr OECD ac integreiddio arferion gorau rhyngwladol i waith datblygu rhanbarthol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddull strategol o ddatblygu rhanbarthol, a byddwn yn ymgorffori canfyddiadau'r OECD i'n gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol. Bydd ein gallu i weithio'n agos gyda Chyd-bwyllgorau Corfforaethol, awdurdodau lleol a phartneriaid gweithredu yng Nghymru yn ein helpu i gyflawni amcanion a blaenoriaethau cyffredin a sianelu buddsoddiad yn fwy effeithiol er budd Cymru, ein rhanbarthau a'n cymunedau.

Mae copi o adroddiad synthesis yr OECD ar gael yma.