Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru. Y nod oedd sbarduno mwy o gamau gweithredu, a’r rheini’n rhai ag iddynt fwy o ffocws, er mwyn mynd i’r afael â’r her newid hinsawdd. Pwysleisiodd Gweinidogion Cymru unwaith yn rhagor hefyd yr uchelgais i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Amgaeir, er gwybodaeth ichi, Atodiad 1 o Adroddiad Ôl Troed Carbon GIG Cymru 2018-19, a gomisiynwyd gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Ystadau Arbenigol ac a luniwyd gan yr Ymddiriedolaeth Garbon (Saesneg yn unig). Mae’r adroddiad hwn yn ddiweddariad ffeithiol ar yr allyriadau ar draws GIG Cymru ar un adeg benodol. Mae’n darparu ffocws ar gyfer GIG Cymru a swyddogion i gyflwyno camau gweithredu y gall GIG Cymru eu cymryd i leihau allyriadau fel y sefydliad sector cyhoeddus mwyaf yng Nghymru.

Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cael ei chomisiynu i ddatblygu Cynllun Cyflawni Strategol ar gyfer Datgarboneiddio GIG Cymru. Yn sgil COVID-19, bu oedi wrth ymgymryd â’r gwaith hwn a disgwylir i’r adroddiad gael ei gwblhau yn yr hydref. Ceir amserlenni clir, uchelgeisiol a chyraeddadwy er mwyn lleihau allyriadau yn sylweddol ym mhob maes ar draws GIG Cymru.