Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Comisiynais yr Athro John Harries, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru i roi adroddiad ar y dystiolaeth wyddonol ar gyfer y rhaglen TB gwartheg.  Ddydd Iau, 1 Rhagfyr cyflwynwyd yr adroddiad hwnnw yn ffurfiol i mi gan yr Athro John Harries â’r Athro Chris Gaskell, Pennaeth y Coleg Amaethyddol Brenhinol a Chadeirydd y panel adolygu annibynnol.

Rwyf nawr yn ystyried yr adroddiad a’i oblygiadau i raglen gyffredinol dileu TB gwartheg Llywodraeth Cymru.  Byddaf yn adrodd ymhellach ar y mater ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Hoffwn ddiolch i’r Athro Gaskell ac aelodau eraill y panel annibynnol (yr Athro Syr Mansel Aylward; yr Athro Malcolm Bennett; yr Athro Bridget Emmett; yr Athro Charles Godfray a’r Athro Dirk Pfeiffer) ac i’r tystion arbenigol a fu’n cynorthwyo’r panel gyda’u trafodaethau ac a fu’n bresennol yn y sesiynau tystiolaeth.