Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf yn ysgrifennu atoch i dynnu sylw'r Senedd at adroddiad statudol cyntaf Llywodraeth y DU i Senedd y DU o dan Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023, a gyhoeddwyd ar 22 Ionawr 2024: Retained EU Law Parliamentary Report June 2023 – December 2023 (Saesneg yn Unig).

Mae'r adroddiad yn crynhoi'r newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud gan ddefnyddio pwerau Deddf REUL rhwng mis Mehefin a mis Rhagfyr 2023. Mae Llywodraeth y DU yn datgan ei bod ar y trywydd iawn o ran diwygio neu ddirymu mwy na hanner stoc cyfraith yr UE a ddargedwir erbyn mis Mehefin 2026. Mae'n defnyddio dangosfwrdd cyfraith yr UE a ddargedwir i roi gwybodaeth i'r cyhoedd am faint o ddeddfwriaeth sy'n deillio o'r UE, a'r cynnydd y mae'r llywodraeth yn ei wneud. Mae'r dangosfwrdd bellach yn nodi nad yw ond yn cwmpasu deddfwriaeth y DU sydd chadw yn ôl, ac sydd â chymhwysedd cymysg neu sy'n dod o dan gymhwysedd datganoledig; nid yw'n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a wneir gan y sefydliadau datganoledig.

Mae'r adroddiad yn nodi bod gan y dangosfwrdd gyfanswm o 6,757 o offerynnau o gyfraith yr UE a ddargedwir yn rhychwantu tua 400 o feysydd polisi. Ers y diweddariad blaenorol i'r dangosfwrdd ar 22 Ionawr 2024, mae mwy na 1,000 o offerynnau cyfraith yr UE a ddargedwir naill ai wedi'u dirymu neu eu diwygio, sy'n golygu bod mwy na 2,000 o offerynnau eisoes wedi'u dirymu neu eu diwygio i gyd.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu parhau i ddefnyddio pwerau Deddf REUL yn 2024 ac mae'n cynnig diwygio hyd at 197 darn o gyfraith a gymhathwyd yn 2024-25 a 785 yn 2025-26.

Mae'r adroddiad yn nodi y bydd y diwygiadau arfaethedig yn achos cyfraith a gymhathwyd yn cyflawni amcanion rheoleiddio doethach Llywodraeth y DU i reoleiddio gael ei ddefnyddio yn unig lle bo angen, iddo gael ei roi ar waith yn dda, ei ddefnyddio'n gymesur, ac i gael ei ddiogelu at y dyfodol. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd pwerau Deddf REUL i ddirymu a diwygio yn cael eu defnyddio i fwrw ymlaen â datblygu'r rhaglen hon.

Gwrthododd y Senedd roi ei chydsyniad i Fil REUL ac nid ydym yn argyhoeddedig o angenrheidrwydd, dymunoldeb a doethineb cychwyn ar newid sylweddol i'r corff o'r hyn sydd bellach yn gyfraith a gymathwyd ar hyn o bryd ac yn fwy cyffredinol. Rydym o'r farn bod yn rhaid ystyried newid rheoleiddiol mewn ffordd bwyllog a gwrthrychol.

Byddwn yn defnyddio pwerau Deddf REUL mewn modd cymesur a doeth lle y mae manteision i Gymru o wneud hynny. Ni fyddwn yn brysio i newid y gyfraith dim ond am ein bod yn gallu. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU pan fydd gwneud hynny'n dda i Gymru.

Rydym yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cynnwys gofyniad statudol yn Neddf REUL ar gyfer cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i Weinidogion y DU wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig o dan bwerau yn Neddf REUL. 

Er gwaethaf hyn, rydym yn croesawu ymrwymiadau anstatudol y mae Gweinidogion y DU wedi'u gwneud i geisio cytundeb gan Weinidogion Cymru i ddefnyddio pwerau Deddf REUL lle mae ganddynt effaith mewn meysydd datganoledig. Rydym yn gobeithio y bydd ymrwymiadau i beidio â chymryd pwerau pellach neu i wrthwneud cymwyseddau datganoledig yn cael eu parchu drwy gydol yr amser y mae'r pwerau yn y Ddeddf ar gael i Lywodraeth y DU. 

Rydym yn croesawu'r adroddiad sy'n cydnabod mai mater i'r deddfwrfeydd datganoledig yw penderfynu a ddylai cyfraith a pholisi domestig fod yn wahanol i gyfraith a pholisi'r UE, sut y dylai hynny ddigwydd ac i ba raddau. Mae'r egwyddor hon yr un mor gymwys i'r ystod gyfan o newidiadau y gellir defnyddio pwerau Deddf REUL i'w cyflawni.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar faterion sy'n gwella bywydau pobl yng Nghymru. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael inni i sicrhau bod hawliau a safonau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn cael eu diogelu. Mae'n hanfodol bod rheoliadau sy'n gymwys yng Nghymru, a wneir gan Lywodraeth y DU, yn parchu blaenoriaethau pobl Cymru, ac nad ydynt yn cael eu gwneud mewn meysydd datganoledig ond pan fo cydsyniad Gweinidogion Cymru wedi'i roi. 

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.