Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Tasglu Gweinidogol y Model Cyflenwi Athrawon, a sefydlwyd ym Mehefin 2016 i ystyried sut y mae athrawon cyflenwi yn cael eu darparu ar gyfer ysgolion, wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw. Rwy'n croesawu'r adroddiad pwysig hwn a hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Tasglu, o dan arweiniad Sandra Jones, am eu hymrwymiad a'u mewnbwn i’r adroddiad, sydd wedi bod yn un anodd ei lunio.

Mae'n amlwg bod y ddarpariaeth bresennol ar gyfer trefnu athrawon cyflenwi yn ein hysgolion yn gymhleth iawn, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau daearyddol a’r gofyniad i ddiwallu anghenion lleol penodol. Ar hyn o bryd, mae trefniadau di-rif wedi'u cymeradwyo ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, gydag ychydig o waith trefnu a  chydlynu, i sicrhau’r arbedion mwyaf ac i gefnogi a datblygu ein hathrawon cyflenwi. Mae’r ddarpariaeth yn amrywiol ac yn anghyson. Mae rhai ysgolion yn defnyddio asiantaethau cyflenwi masnachol, eraill yn cyflogi staff cyflenwi yn uniongyrchol, rhai yn defnyddio rhestrau awdurdodau lleol, ac mewn rhai ardaloedd, defnyddir cyfuniad o'r tri dull.

Mae'r adroddiad wedi amlinellu 10 o argymhellion allweddol sy’n cwmpasu’r meysydd canlynol yn fras: defnyddio athrawon cyflenwi, costau athrawon cyflenwi, trefniadau diogelu, casglu data cywir, tâl ac amodau, cyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus a defnyddio dull mwy rhagweithiol a chynhwysol o gydweithio i ddiwallu anghenion cyflenwi lleol, gan sicrhau bod safonau ansawdd achrededig sylfaenol yn cael eu cadw. Mae pob un o'r argymhellion yn ceisio sicrhau gwelliannau ym maes cyflenwi, sy'n ategu ein dyheadau addysgol ehangach, ond hefyd sut rydym yn cefnogi athrawon cyflenwi yn fwy cyffredinol.  Yn ôl y Tasglu, er bod anfanteision i'r system gyfredol, nid oes un ffordd syml o ddatrys y problemau ar unwaith ar draws Cymru.

Er fy mod yn cytuno â’r datganiad hwnnw, mae lle amlwg i wella mewn perthynas â sut rydym yn cyflogi, rheoli a chefnogi athrawon cyflenwi. Felly, rwy’n falch cael derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith manwl a dadansoddi er mwyn gweld a oes modd cyflawni pob un o’r argymhellion hynny yn gyfreithlon. Mae argymhelliad 6 ac 8 yn arbennig yn codi cwestiynau cyfreithiol cymhleth ac o ran polisi, ac mae angen edrych ar rhain ymhellach. Ond, rwy’n cefnogi’n llwyr y syniad bod angen mynd i’r afael â’r materion sy’n arwain at yr argymhellion hynny. Byddaf hefyd yn rhoi ystyriaeth i safbwyntiau ein partneriaid a’n rhanddeiliaid.

Mae'r tirlun yng Nghymru yn newid, ac mae hyn yn rhoi cyfle unigryw i ni ystyried yn fanwl y materion sy'n effeithio ar y broses o ddarparu a defnyddio athrawon cyflenwi, a sicrhau newid mewn ffordd sy'n weladwy ac yn gynaliadwy. Byddwn yn ystyried manteision cydweithio wrth ddarparu athrawon cyflenwi, yn sgil y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am drefniadau cydweithio arfaethedig yn y sector cyhoeddus.

Mae gwaith wedi dechrau mewn rhai meysydd allweddol y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad, ac rydym eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â materion pwysig a ddaeth i'r amlwg drwy’r Tasglu sy’n ymwneud â chyfrifoldeb cyflogwyr am drefniadau diogelu. Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith eisoes i sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol, gan gynnwys trafodaethau cynnar gydag arweinwyr y Consortia, ac edrych ar sut y gall Hwb, sef platfform dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, wneud mwy i gefnogi athrawon cyflenwi. Mae Hwb yn rhan annatod o'r broses addysgu a dysgu sy’n galluogi pob athro, gan gynnwys ein hathrawon cyflenwi, i gael mynediad at adnoddau i ehangu eu datblygiad ym maes addysgeg, a rhannu’r adnoddau hynny.

Bydd y trefniadau hyn yn galluogi pob athro cyflenwi, gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso sy’n gwneud gwaith cyflenwi, i gael mynediad llawn a pharhaus at Hwb waeth beth fo hyd eu cyfnod cyflenwi, nac ym mha ysgol. Yn hynny o beth, byddaf yn edrych yn fanwl ar ein polisi ynghylch sut y gallwn sicrhau bod ein hathrawon newydd gymhwyso nad ydynt yn cael swyddi dysgu parhaol ar ôl cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol athrawon, yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd, ac yn cael digon o gefnogaeth yn ystod eu blwyddyn ymsefydlu.

Yng ngoleuni adroddiad diweddar gan Estyn ac wrth ystyried safbwyntiau’r Tasglu, rydym hefyd yn cynnig y dylid diweddaru ac ailgyhoeddi canllawiau ar reoli presenoldeb mewn ysgolion i bwysleisio'r arferion da y gall ysgolion eu mabwysiadu wrth ddefnyddio a chefnogi athrawon cyflenwi.

Rwy'n llwyr gydnabod bod athrawon cyflenwi yn rhan bwysig o'r gweithlu athrawon yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein hathrawon cyflenwi yn sector gwybodus yng ngweithlu ehangach yr ysgol, sy’n barod ac sydd â’r gallu i gefnogi’r diwygiadau arfaethedig ehangach i addysg. Mae'n amlwg bod llawer o waith i'w wneud, a neges yr adroddiad hwn ac adroddiadau blaenorol yw bod angen i ni roi cefnogaeth lawn i'n hathrawon cyflenwi a'u hintegreiddio i'n cynlluniau, os ydym am gyflawni ein hamcanion ar gyfer addysg yng Nghymru.

Bydd y gwaith pellach sydd ei angen er mwyn ystyried a datblygu ein cynigion mewn perthynas â’r argymhellion yn cael ei wneud fel rhan allweddol o gynllunio'r gweithlu yn effeithiol ac yn gynaliadwy, sy’n elfen o’r cynllun cenedlaethol arfaethedig i ysgolion ar gyfer gwella addysg.

http://learning.gov.wales/resources/collections/supply-teachers?lang=cy#collection-2