Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi'r adroddiad terfynol gan dîm adolygu a benodwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi gwerthuso'r Canllawiau Eithriadau ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. 

Mae'r tîm adolygu wedi edrych ar sut mae awdurdodau priffyrdd wedi gweithredu'r newid polisi 20mya ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn cydnabod yr angen am gydbwysedd rhwng pryderon diogelwch a manteision posibl cyflymderau uwch ar brif ffyrdd strategol neu brif ffyrdd allweddol. Mae'n awgrymu bod angen canllawiau diwygiedig i ddarparu gweithdrefn systematig i asesu ffyrdd ar gyfer addasiadau i'r terfyn cyflymder. Dylai hyn egluro egwyddorion craidd wrth gydbwyso cysondeb â hyblygrwydd, gan gydnabod cymhlethdod penderfyniadau ynghylch terfynau cyflymder.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled. Bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio i osod y sylfeini ar gyfer newidiadau a diwygiadau i'r canllawiau y  gellir eu defnyddio er mwyn i ffyrdd lleoleithrio o'r terfyn 20mya. Bydd y fframwaith hwnnw'n cael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf. Rydym am gyd-greu fframwaith sy'n cefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol, yn enwedig pan fo hynny yn gymhleth. 

O fis Medi ymlaen, byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau priffyrdd i asesu ffyrdd, gwneud gorchmynion rheoleiddio traffig, a gweithredu newidiadau ar lawr gwlad. Mae'n debygol y bydd yn cymryd sawl mis cyn i ni ddechrau gweld canlyniadau'r gwaith hwn.

Mae cynghorau eisoes yn asesu ffyrdd lleol a allai fod angen eu haddasu. Drwy ein rhaglen wrando, rwyf wedi annog y cyhoedd i rannu eu syniadau ar ble y dylid targedu terfynau 20mya, ar ffyrdd awdurdodau lleol ac ar y rhwydwaith cefnffyrdd a reolir gan Lywodraeth Cymru. Unwaith y bydd awdurdodau lleol wedi cydweithio â chymunedau a bod y fframwaith newydd wedi'i gwblhau, bydd awdurdodau priffyrdd yn ystyried a ddylai'r cyfyngiadau cyflymder ar unrhyw un o'r ffyrdd (neu ran o ffyrdd) y maent yn gyfrifol amdanynt newid. 

Prif amcan y polisi yw arbed bywydau a lleihau'r nifer sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd. Trwy wrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau ar gyfer eu cymunedau, rydym wedi ymrwymo i fireinio'r polisi hwn a sicrhau cyfyngiadau cyflymder priodol ar y ffyrdd cywir. Yn y pen draw, bydd maint y newid yn cael ei bennu gan yr awdurdodau priffyrdd perthnasol.