Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Hydref 2024 cyhoeddais benodi Grŵp Cynghori Gweinidogol allanol ar Berfformiad a Chynhyrchiant yn GIG Cymru. Roedd y Grŵp yn annibynnol ar GIG Cymru ac roedd gan ei aelodau gyfoeth o brofiad o wasanaethau iechyd gwladol eraill. Cyflwynodd ei adroddiad i mi ar 31 Mawrth 2025. 

Cafodd y Grŵp y dasg o roi sicrwydd allanol ar effeithiolrwydd y trefniadau presennol yn GIG Cymru i wella perfformiad a chynhyrchiant ar draws y system a rhoi ei farn ar sut y gellid cryfhau'r trefniadau er mwyn gwella perfformiad a chynhyrchiant ymhellach.

Gofynnais i'r Grŵp edrych ar y dull cyflawni o ran mynediad i gleifion, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ofal a gynlluniwyd, lleihau’r amseroedd aros hiraf, canser, diagnosteg, a gofal brys ac argyfwng. 

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi adroddiad y Grŵp, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion. Byddaf yn gwneud datganiad llafar hefyd, yn nodi sut rwy’n bwriadu gweithredu ar sail yr argymhellion. 

Hoffwn ddiolch i Syr David Sloman ac aelodau'r Grŵp am eu gwaith caled a'u hymrwymiad dros y chwe mis diwethaf.

https://www.llyw.cymru/perfformiad-chynhyrchiant-gig-cymru-adolygiad-annibynnol