Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Teimlwyd effaith y pandemig ar draws ein cymunedau a chan bawb sy'n dibynnu ar gymorth gan wasanaethau gofal cymdeithasol. Yn 2021, wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, roedd pryder cyffredinol am gyflymder adferiad cyfleoedd dydd a chanfu adolygiad a oedd yn rhoi cipolwg o'r sefyllfa fod cryn amrywiaeth ar draws y rhanbarthau. Wedi i'r adolygiad cychwynnol hwn gael ei gwblhau, ac wrth i wasanaethau adfer o effaith y pandemig, comisiynais Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru eto i gynnal dadansoddiad manwl o gyfleoedd dydd, a oedd yn cynnwys archwilio barn rhanddeiliaid ynghylch sut y dylid datblygu gwasanaethau o'r fath yn y dyfodol.  

Mae'r adolygiad yn cael ei gyhoeddi heddiw ar wefan y Gymdeithas.

Mae'n gwneud saith o argymhellion. Yn y cyfnod ariannol anodd iawn sydd ohoni, mae'n hanfodol ein bod yn archwilio pob llwybr i adeiladu rhwydweithiau cymorth, gan weithio gyda'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Mae angen i ni hefyd fanteisio'n llawn ar welliannau digidol i gysylltu pobl.

Ar lefel strategol, er mwyn comisiynu gwasanaethau yn well drwy ein rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth, rydym yn sefydlu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth, a fydd yn cryfhau trefniadau partneriaeth rhanbarthol, ac yn creu swyddfa gofal a chymorth genedlaethol i oruchwylio a chefnogi'r gwaith o weithredu a rheoli'r fframwaith.  

I ysgogi cydweithio a gwella, rwy'n llunio gweithgor sy'n cynnwys yr holl bartneriaid sy'n ymwneud â chynllunio a darparu cyfleoedd dydd a phobl â phrofiad byw, i gytuno ar gynllun i wneud y defnydd gorau o wasanaethau presennol, i hyrwyddo arloesedd ac i rannu arferion da.   

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo arferion da wrth gydgynhyrchu ac i sicrhau bod cyfleoedd dydd yn diwallu'r anghenion a nodwyd gan yr unigolion hynny sy'n eu defnyddio ac sy'n dibynnu arnynt. 

Bu'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anabledd Dysgu yn ystyried argymhellion yr adroddiad yn fanwl yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr a bydd yn parhau i gynghori ar sut i fabwysiadu a gweithredu'r argymhellion hyn yn effeithiol drwy ddull amlasiantaethol wedi'i gydgynhyrchu'n llawn mewn partneriaeth â rhanddeiliaid o bob rhan o sector cyhoeddus Cymru.

Rwy'n falch bod llawer o'r bobl sy'n defnyddio cyfleoedd dydd yn elwa o fodelau cymorth newydd, sydd wedi'u teilwra i ddewisiadau unigol, ac o ganlyniad, mae llawer eisiau parhau â'r dull mwy hyblyg hwn. Mae llawer o bobl hŷn, rhieni a gofalwyr di-dâl yn gwerthfawrogi cefnogaeth mewn lleoliadau penodol, fel canolfannau dydd, sy'n cynnig amgylchedd croesawgar i deuluoedd, yn creu cymuned, ac yn gallu darparu cymorth y mae mawr ei angen i'w helpu i barhau yn eu rolau gofalu. 

Mae'n rhaid i ni wneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cymorth sefydledig i  gefnogi pobl economaidd anweithgar i oresgyn y rhwystrau i waith trwy ddarparu cymorth cydlynol, wedi'i deilwra'n lleol. Gall hyn gynnwys prosiectau sy'n hyrwyddo pwysigrwydd gwaith i helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol, ochr yn ochr â datblygu eu gwytnwch ariannol a'u llesiant yn y dyfodol. Bydd Gyrfa Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth cyfeirio allweddol i helpu pobl i ddeall pa gyfleoedd cyflogadwyedd sydd ar gael ledled Cymru. 

I gyd-fynd â'n hymrwymiad i greu Cymru oed-gyfeillgar, rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio mewn partneriaeth â phobl hŷn a phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu a diogelu gwasanaethau cymunedol. Mae'r cyllid yn cefnogi awdurdodau lleol, drwy eu swyddogion lleol ymroddedig, i ddatblygu mecanweithiau cadarn o ymgysylltu â phobl hŷn, sy'n addas i’r ardal leol. Mae hefyd yn galluogi i awdurdodau lleol greu perthnasoedd newydd â dinasyddion a sbarduno newid diwylliannol tuag at ffordd fwy cydgynhyrchiol o ddylunio a darparu gwasanaethau. 

Rydym hefyd yn diweddaru ein strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Bydd y strategaeth yn ailddatgan ein hymrwymiad i ymdrin ag iechyd meddwl drwy ddull gweithredu ar y cyd rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol - dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn fel nad yw'n gwneud gwahaniaeth pwy sy'n darparu gwasanaethau unigol.

Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd yn ddibynnol ar fynediad at gyfleoedd dydd. Yr hydref diwethaf, gwnaethom gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â phobl â phrofiad byw i nodi 40 mlynedd ers cau ysbytai arhosiad hir yng Nghymru. Mae'n amlwg bod gwasanaethau cymorth wedi dod yn bell – roedd y bobl a ddaeth i'r digwyddiadau yn croesawu'r dewis ehangach a'r gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a all arwain at well integreiddio a chyfranogiad yn eu cymunedau lleol eu hunain.