Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rwyf heddiw’n cyhoeddi adroddiad yr Athro June Andrews a Mark Butler Trusted to Care. Mae hyn yn dilyn yr adolygiad i safon y gofal i bobl hŷn yn ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot. Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn y Siambr y prynhawn yma, ond roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig ysgrifennu atoch i nodi fy ymateb i’r adroddiad yn ddiymdroi.
 
Fe gofiwch imi gomisiynu’r adolygiad hwn ddiwedd y llynedd ar ôl i bryderon sylweddol gael eu codi gyda mi ynglŷn â’r gofal i gleifion yn y ddau ysbyty. Cynhaliwyd yr adolygiad dros gyfnod o bedwar mis rhwng mis Rhagfyr 2013 a mis Mawrth 2014. Daeth yr adroddiad terfynol i law Llywodraeth Cymru ar 6 Mai, 2014 ac rwy’n ei gyhoeddi’n llawn heddiw.

Nid yw’r adroddiad yn un hawdd i’w ddarllen; bydd yn arbennig o anodd i’r rhai sy’n ymwneud â gofal i bobl hŷn yn yr ysbytai hyn. Bydd gweld canfyddiadau a sylwadau’r tîm adolygu yn anodd i bob un sy’n gweithio yn y GIG ac sy’n gwneud eu gorau glas dros gleifion drwy ddarparu gofal cysurlon o’r safon uchaf. Mae gan bob claf yr hawl i ddisgwyl hynny.

Bydd yr adroddiad yn un anodd i gleifion a’u teuluoedd hefyd. Fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, hoffwn ymddiheuro’n gwbl ddiffuant i’r unigolion a’r teuluoedd hynny a gafodd ofal oedd mor bell islaw’r safon y byddent wedi’i disgwyl tra’n derbyn gofal yn y ddau ysbyty hyn.

Mae rhai o’r pethau rwyf wedi’u darllen yn yr adroddiad wedi fy syfrdanu.  Rwy’n benderfynol na fydd dim byd o’r fath yn cael ei oddef eto ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg nac yn wir yn unman arall yng Nghymru yn y dyfodol.

Er gwaethaf y diffygion a nodir, mae’n galonogol bod yr adroddiad yn pwysleisio ac yn ailadrodd nad yw, ac nad oedd, yr hyn a ddigwyddodd yn yr ysbytai hyn yn debyg mewn unrhyw ffordd i’r hyn a gafwyd yn Ymddiriedolaeth GIG Canolbarth Swydd Stafford yn Lloegr.

Mae’r Athro Andrews a Mr Butler yn dweud mai’r cwestiwn allweddol yr oedd pobl yn ei ofyn drwy gydol yr adolygiad oedd “Ydy Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Mid Staffs arall?” Mae’r adroddiad yn ateb y cwestiwn hwnnw’n glir a phendant: “Nac ydy”.

Maent wedi mynd ati’n ofalus hefyd i ystyried gallu bwrdd presennol Abertawe Bro Morgannwg a’i uwch-dîm gweithredol i wneud y newidiadau brys sydd eu hangen. Y casgliad diamwys yw eu bod yn hyderus bod y gallu ganddynt.  Yn yr un modd ag yr wyf yn derbyn yr argymhellion penodol yn yr adroddiad, rwyf hefyd yn derbyn y casgliad ynglŷn â’r mater hwn. Rwyf eisoes wedi cwrdd â’r cadeirydd a’r prif weithredwr ac wedi dweud yn glir iawn beth yw fy nisgwyliadau. Maent hwythau, yn eu tro, wedi fy sicrhau’n gadarn y byddant yn gwneud popeth sy’n ofynnol i gyflawni’r cyfrifoldebau a roddwyd iddynt.

Bydd fy uwch-swyddogion a minnau yn cadw llygad fanwl ar hynt y gwaith ac yn disgwyl gweld gwelliannau’n syth, gan adeiladau ar y camau gweithredu y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi dechrau eu rhoi ar waith yn barod.

Mae’r adroddiad yn disgrifio ystod eang o faterion mewn pedwar maes allweddol. O edrych arnynt gyda’i gilydd maent yn dangos bod gwendidau drwy’r system gyfan ac arferion annerbyniol ar sawl lefel.

Nid un proffesiwn gofal iechyd yn unig na gofal ar y rheng flaen yn unig sydd dan sylw yn y canfyddiadau. Mewn wardiau, roedd y diffygion mewn safonau yn rhai amlddisgyblaethol. Er bod llawer o hyn yn perthyn i faes cyfrifoldeb nyrsys, methodd meddygon ag ymyrryd neu nid oeddent ar gael pan oedd eu hangen, a methodd fferyllwyr â gweithredu ar ôl gweld arferion y gwyddent nad oeddent yn iawn. Ar yr un pryd, roedd rheolwyr yr ysbytai naill ai’n camu’n ôl oddi wrth eu cyfrifoldeb o sicrhau gofal o ansawdd da i gleifion, neu wedi methu â deall y cyfrifoldebau hynny.

Roedd hyn i gyd yn rhy bell oddi wrth y bwrdd. Doedd ganddo ddim prosesau cadarn ar waith i ganfod diffygion mewn safonau.

Mae’n galonogol bod y tîm adolygu wedi gweld a chofnodi arferion canmoladwy yn y ddau ysbyty. Nid oedd y gofal gwael a welodd y tîm yn wir am bob ward yr ymwelwyd â hi – nac yn wir hyd yn oed am y wardiau hynny lle digwyddodd y problemau – ac nid oedd yn wir am bob shifft. Ond nid yw amrywiaeth fel hyn mewn safonau yn dderbyniol.  

Mae’r adroddiad yn nodi’n glir hefyd bod cyfrifoldeb  ar y bwrdd i gefnogi, addysgu a datblygu ei staff. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw diffygion mewn safonau yn gwreiddio ac yn dod yn systemig, fel y caniatawyd iddynt wneud mewn rhai rhannau o ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot.

Mae hwn yn adroddiad i bob un o sefydliadau’r GIG yng Nghymru.

Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at gadeirydd pob un o’r byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r  GIG yn esbonio fy mod yn disgwyl y bydd eu Byrddau’n darllen ac yn trafod yr adroddiad hwn, y byddant yn ystyried y safonau gofal i bobl hŷn yn eu wardiau ac y byddant yn sicrhau bod unrhyw gamau gweithredu sy’n deillio o’r adroddiad o ran eu sefydliad a’u cleifion nhw yn cael eu rhoi ar waith.

Mae’r adroddiad yn nodi rhai meysydd penodol iawn lle’r oedd y gofal i bobl hŷn yn ddiffygiol yn ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot. Roedd y rhain yn ymwneud â:

  • Rhoi moddion i gleifion
  • Sicrhau bod cleifion yn cael digon o hylif
  • Gorddefnyddio tawelyddion yn y nos
  • Gofal sylfaenol o ran ymataliaeth.

Rwy’n gofyn am sicrhad ar unwaith nad yw’r methiannau hyn yn digwydd mewn wardiau ysbytai ledled GIG Cymru. Byddaf yn rhoi manylion pellach yn fy natganiad llafar y prynhawn yma ynglŷn â sut bydd y sicrhad hwn yn cael ei roi. Wrth gomisiynu’r Athro Andrews i adolygu’r gofal i bobl hŷn yn ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot, gofynnais i’w thîm edrych yn benodol ar sut y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn ymdrin â chwynion, gan gynnwys ymchwiliadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed.

Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o sylwadau pwysig a difrifol ynglŷn ag ymdrin â chwynion ar draws y bwrdd iechyd. Bydd y rhain yn cael eu trosglwyddo i Keith Evans, cyn-brif weithredwr a rheolwr-gyfarwyddwr Panasonic y DU ac Iwerddon, sy’n arwain adolygiad ar lefel Cymru gyfan o’r modd yr ymdrinnir â chwynion. Rwy’n disgwyl i adroddiad yr adolygiad hwnnw gael ei gyflwyno imi yn ystod y misoedd nesaf.

Mae cyfanswm o 18 o argymhellion yn yr adroddiad. Maent yn disgrifio’n glir y bwriadau penodol sydd y tu ôl i bob un ac yn esbonio sut, yn eu barn nhw, y gellir defnyddio’r rhain gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r methiannau a’r gwendidau a ganfuwyd mewn gofal, diwylliant ac arferion rheoli - a gwneud hynny’n gyflym - dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yw 14 o’r argymhellion, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw pedwar ohonynt. Bydd yr holl argymhellion yn cael eu derbyn.

O ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, mae’r argymhellion yn cynnwys camau i fynd i’r afael â diffygion mewn sgiliau, gwybodaeth ac addysg (argymhellion pedwar a phump). Mae argymhelliad chwech yn ymwneud â chael gwared â natur dameidiog y cyfrifoldebau, a hynny drwy arferion amlddisgyblaethol ar y cyd.

Ceir argymhellion hefyd sy’n ymdrin â’r angen i wella amgylchedd ffisegol y wardiau yn y ddau ysbyty (argymhelliad 10) ac i symleiddio a chryfhau’r atebolrwydd rheolaethol a chlinigol er mwyn sicrhau bod y staff clinigol a’r staff cymorth priodol ar gael yn y lle iawn i ddiwallu anghenion pobl hŷn (argymhelliad 11).

Mae’r bwrdd yn cyhoeddi ei ymateb i’r adroddiad heddiw, ac mae hynny’n cynnwys set o gamau gweithredu i ddangos sut y bydd yn rhoi pob un o’r 14 argymhelliad ar waith.

Dyma’r argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, a’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymgyrch strategol i wella dealltwriaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol bod rhoi hylif a bwyd yn rheolaidd yr un mor bwysig â glanhau’r dwylo wrth hybu lles pobl hŷn mewn ysbytai.
Bydd y gwaith cynllunio yn dechrau’n syth, gan adeiladu ar gyfres o gamau gweithredu sydd eisoes ar y gweill, ac yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth y cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu pa mor effeithiol yw’r broses o graffu ac o adrodd ar ansawdd mewn perthynas â gofal i’r henoed bregus yn y maes iechyd.
Bydd y dirprwy brif swyddog meddygol yn arwain gwaith i sicrhau bod y systemau sydd gennym ar hyn o bryd yn cael eu cryfhau ac yn canolbwyntio ar ofalu am yr henoed bregus. Bydd hyn yn cyd-fynd â’r argymhelliad isod.
  • Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i ddatblygu dangosfwrdd a chanllawiau enghreifftiol ar gyfer asesiad ar lefel bwrdd o’r gofal i bobl fregus a’r henoed – y rhain i’w mabwysiadu ar draws GIG Cymru erbyn diwedd 2014.
Bydd Llywodraeth Cymru’n mynd ati yn awr i drafod yr argymhelliad hwn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith.
  • Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu adolygiad annibynnol pellach o’r ddarpariaeth i bobl hŷn o fewn blwyddyn i ddyddiad yr adroddiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i wneud hyn.
Rwyf am bwysleisio eto bod y tîm adolygu wedi dweud bod rhaid darllen a derbyn yr adroddiad hwn fel cyfanwaith. Mae’n datgan nad oes angen cynnal ymchwiliad cyhoeddus ac na fyddai unrhyw ddiben defnyddiol i hynny. Mae’n galonogol bod yr adroddiad yn dweud bod y mwyafrif llethol o aelodau’r cyhoedd a staff y GIG y cyfarfu’r tîm adolygu â nhw eisiau teimlo’n falch o’r gwasanaethau iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot, a bod hynny wedi creu argraff ar y tîm adolygu. Roedd y rhan fwyaf yn dweud hefyd yr hoffent weld pethau’n cael eu gwneud yn fwy agored, a gweld y system yn cael ei gwella at y dyfodol.

Yn awr mae’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fynd i’r afael â’r her hon a defnyddio’r cyfle hwn i wella hyder y cyhoedd a morâl y staff.

Cafodd yr adolygiad ei gwblhau mewn llai na chwe mis. Mae wedi bwrw golwg drylwyr ar arferion y presennol ac wedi edrych ar arferion y gorffennol yn ogystal. Mae wedi cyflwyno darlun clir iawn inni o’r hyn sydd angen digwydd ar unwaith yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, a sut y gellir gwella pethau. 

Mae ymchwiliadau cyhoeddus, ar y llaw arall, yn golygu proses hir, ac felly nid oes modd iddynt ganolbwyntio ar bethau y gellir eu gwella’n syth. Rwy’n credu’n gryf ein bod wedi profi mai cynnal yr adolygiad hwn oedd y peth iawn i’w wneud.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r Athro Andrews, i Mark Butler ac i’r tîm adolygu am eu gwaith ac am gynhyrchu adroddiad mor graff a chadarnhaol. Rwy’n benderfynol y bydd yr holl argymhellion yn cael eu rhoi ar waith. Rhaid canolbwyntio nawr ar sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud.