Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Estyn wedi cyhoeddi dau adroddiad heddiw ynghylch gwasanaethau addysg o fewn awdurdodau lleol Merthyr Tudful a Sir Fynwy. Rwy’n cyflwyno’r datganiad hwn er mwyn tynnu sylw’r Aelodau at y dyfarniadau a nodir yn yr adroddiadau hynny. 

Mae’r ddau adroddiad yn cynnwys beirniadaethau pwysig ynghylch perfformiad y ddau awdurdod lleol.

Yn eu dyfarniadau cyffredinol canfu timau arolygu Estyn fod perfformiad presennol gwasanaethau addysg y ddau awdurdod lleol yn anfoddhaol. Canfu hefyd fod rhagolygon yr awdurdodau lleol ar gyfer gwella yn anfoddhaol. O ystyried y diffygion difrifol hyn cred Estyn fod angen cyflwyno mesurau arbennig o fewn y ddau awdurdod lleol hyn.   

Yn ddiamau mae’r adroddiadau hyn yn rhai beirniadol iawn. Mae’r diffygion hyn yn annerbyniol a byddwn yn mynd ati’n gyflym i sefydlu trefniadau ar gyfer sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol. Mae’r ffaith bod angen mesurau arbennig ar y ddau awdurdod hyn yn adlewyrchu’n ddamniol arnynt. 

Er gwaethaf y gwahaniaethau o ran eu cyd-destunau demograffig a’r heriau y mae’r ddau awdurdod yn eu hwynebu bernir bod perfformiad presennol y ddau yn anfoddhaol ac nid yw eu rhagolygon ar gyfer gwella yn foddhaol ychwaith.

Dyma drosolwg cryno o’r ddau adroddiad.   

Bernir bod gwasanaethau addysg awdurdod Sir Fynwy yn anfoddhaol oherwydd bod eu perfformiad o’u cymharu ag ysgolion tebyg, ar sail yr hawl i brydau ysgol am ddim, gryn dipyn yn is na’r cyfartaledd ac mae’r cynnydd rhwng yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd hefyd gryn dipyn yn is na’r cyfartaledd. Mae cyfanswm nifer y dyddiau a gaiff eu colli yn sgil gwaharddiadau am gyfnodau penodol hefyd yn rhy uchel. Daeth y tîm arolygu i’r casgliad nad yw trefniadau’r awdurdod ar gyfer cefnogi ysgolion a’u herio yn ddigon cadarn ac nid ydynt wedi sicrhau digon o effaith. Mae eu gwaith cynllunio strategol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn wan. Mae’r ffaith nad yw trefniadau’r awdurdod ar gyfer diogelu yn bodloni’r gofynion hefyd yn gryn destun pryder. 

Barnodd Estyn hefyd fod rhagolygon Sir Fynwy ar gyfer gwella yn anfoddhaol. Y rheswm am hyn oedd fod diffyg capasiti strategol a chapasiti gweithredol o fewn y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc. Yn ddiamau mae hyn wedi cyfrannu at y methiant i wella mewn meysydd allweddol. Daeth y tîm arolygu i’r casgliad hefyd nad yw’r aelodau etholedig yn derbyn yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddwyn swyddogion i gyfrif yn llawn. Canfu’r tîm arolygu nad yw’r prosesau hunanwerthuso yn ddigon trylwyr ac nad yw trefniadau cynllunio corfforaethol y gyfarwyddiaeth yn effeithiol. Yn ogystal, barnwyd nad yw swyddogion yn defnyddio prosesau sicrhau ansawdd nac yn gwerthuso data yn ddigon cyson i wybod sut y dylid gwneud y defnydd gorau o adnoddau a gwasanaethau er mwyn cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer y dysgwyr. Nid yw prosesau rheoli perfformiad yn cael eu gweithredu’n gyson o fewn y gyfarwyddiaeth ac nid yw arweinwyr a rheolwyr bob amser mewn sefyllfa i gyfarwyddo staff neu eu dwyn i gyfrif yn ddigon da.   

O safbwynt Merthyr, mae perfformiad yr awdurdod lleol yn anfoddhaol ym mhob cyfnod allweddol, ac mae’r safonau ar gyfer dysgwyr yn anfoddhaol. Yn ogystal, mae’r cyfraddau gwahardd yn rhy uchel, mae llawer gormod o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac mae’r cyfraddau presenoldeb yn yr ysgolion cynradd yn annerbyniol o isel. Mae’r cymorth ar gyfer gwella ysgolion ac ar gyfer hybu cynhwysiant cymdeithasol a lles yn anfoddhaol; ac ni chaiff effaith gwasanaethau ieuenctid ei gwerthuso er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni’r angen. Ar y cyfan, mae methiant arweinwyr i weithredu’r systemau ar gyfer pennu cryfderau a gwendidau mewn ysgolion wedi arwain at ddiffyg her ac at ddiffyg gwelliannau mewn safonau.   

Hefyd barnodd Estyn fod rhagolygon Merthyr Tudful ar gyfer gwella yn anfoddhaol. Nid yw uwch swyddogion ac aelodau etholedig y cyngor wedi herio tanberfformiad neu ddeilliannau gwael i ddysgwyr. Nid yw swyddogion wedi rhoi adroddiadau i aelodau sy’n dadansoddi data am berfformiad yn ddigon da i nodi cynnydd a meysydd allweddol ar gyfer gwella. Canfu tîm yr arolygiad nad oes gan yr awdurdod lleol broses hunanwerthuso gadarn a pharhaus ar gyfer ei wasanaethau addysg. Nid yw ychwaith wedi ymateb yn ddigon da i argymhellion arolygiadau blaenorol, gan gynnwys rhai sy’n dyddio’n ôl i 2004. Daeth tîm yr arolygiad i’r casgliad nad oes gan yr awdurdod systemau effeithiol i farnu a yw mentrau a gwasanaethau yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc neu’n cynnig gwerth da am arian.

Rwy’n mawr bryderu o weld canfyddiadau ac argymhellion y ddau adroddiad hyn gan Estyn. Mae’r ddau awdurdod mewn sefyllfa ddifrifol ac mae’n gwbl amlwg bod angen cymryd camau ar frys i newid y sefyllfa hon.

Rwyf eisoes wedi siarad ag Arweinyddion Merthyr a Sir Fynwy.

Rwy’n bwriadu ymyrryd yn y ddau awdurdod i sefydlu’r trefniadau a’r cymorth gofynnol i sicrhau gwelliant cyn gynted â phosibl. Mae amryw opsiynau ar gael i mi. Rwy’n ystyried sefydlu byrddau adfer annibynnol i oruchwylio’r gwelliannau sydd eu hangen, monitro’r cynnydd a wneir, a chynnig atebolrwydd. Un opsiwn arall rwy’n ei ystyried yw trosglwyddo rhai neu bob un o’r swyddogaethau gweithredol mewn perthynas â gwasanaethau addysg i gorff arall. 

Byddaf yn rhoi gwybodaeth bellach i’r Aelodau yn amlinellu penderfyniadau a chamau i’w cymryd dros yr wythnosau nesaf.