Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi dau bapur tystiolaeth.

Ym mis Orffennaf 2020, lluniodd y Grŵp Cyngor Technegol adroddiad yn archwilio marwolaethau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn ystod cyfnod gyntaf y pandemig. Rwyf wedi gofyn i'r dadansoddiad hwn gael ei ddiweddaru fel y gallwn ddysgu o’r casgliadau y gellir eu tynnu ar draws cwrs y pandemig hyd yn hyn.

Mae'r ail bapur yn cynnwys modelu sydd yn ystyried effaith Profi, Olrhain a Diogelu ar leihau heintiau a marwolaethau cysylltiedig.

Yn unol â'n hymrwymiad i gyhoeddi cyngor y Grŵp Cyngor Technegol, mae’r ddau gyhoeddiad i’w gweld yma.