Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru yn Genedl Noddfa ac mae’n bleser gen i roi gwybod i’r Aelodau bod Cymru bellach wedi croesawu nifer sylweddol o ddinasyddion Affganistan, a’n bod heddiw wedi pasio’r garreg filltir o 50 o deuluoedd. Bydd tua 230 o unigolion wedi cyrraedd Cymru erbyn diwedd yr wythnos hon.

Mae’r rheini sydd wedi dod i Gymru yn rhan o Bolisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid (ARAP), ac felly wedi gwasanaethu ein Lluoedd Arfog yn ddewr am fwy nag 20 mlynedd yn Affganistan – mae mwyafrif y rheini sydd wedi cyrraedd wedi cefnogi unedau Cymreig y Lluoedd Arfog yn uniongyrchol yn Affganistan.

Bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyfrannu at gynllun ARAP a’r Cynllun i Adsefydlu Dinasyddion Affganistan sydd newydd ei gyhoeddi. Maent wedi cynnig eu cefnogaeth a’u cymorth i’r Affganiaid sy’n cael eu hadsefydlu yn y DU yn dilyn y gwaith o achub pobl o Kabul. Rwyf am ddiolch i lywodraeth leol a’n Lluoedd Arfog am eu gwaith gyda ni i gydlynu’r dasg enfawr hon. Rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol mewn awdurdodau cyhoeddus, grwpiau cymorth ffoaduriaid y trydydd sector, aelodau o gymuned Affganiaid Cymru, ac Urdd Gobaith Cymru i sicrhau bod y rheini sy’n cyrraedd yn cael croeso Cymreig go iawn.

Byddaf yn gwneud datganiad manylach i’r Senedd ynghylch y cynllun adsefydlu yr wythnos nesaf.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei wneud yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater pan fydd y Senedd yn ailymgynnull, byddaf yn hapus i wneud hynny.