Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n ddiolchgar i'r holl unigolion a sefydliadau a roddodd o'u hamser i ymateb i'n hymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio aelodaeth Pwyllgor Ymchwilio a Phwyllgor Addasrwydd i Ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg. Rwy'n falch fy mod i heddiw yn cael cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hynny

Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i randdeiliaid roi eu sylwadau ar ein cynigion a'n hasesiad o'u heffeithiau posibl. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Rhagfyr, a daeth 27 o ymatebion i law.

Mae cefnogaeth glir i'r cynnig i ddiwygio darpariaethau Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 sy'n berthnasol i aelodaeth y Pwyllgorau, a fydd yn golygu y bydd gan Gyngor y Gweithlu Addysg fwy o hyblygrwydd i benodi aelodau panel o gronfa ehangach o ymarferwyr cofrestredig. Byddai egwyddorion tegwch a thryloywder yn parhau ac ni fydd unrhyw berson sy'n wynebu achos addasrwydd i ymarfer o dan anfantais oherwydd y newid. 

Rydym am fwrw ymlaen, felly, â'n cynigion, heb eu newid, a bydd crynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Daw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2024 i rym ym mis Mawrth 2024.