Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch heddiw i gyhoeddi aelodaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cyntaf. 

Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn gyfraith yn gynharach eleni, gan gyflawni ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i osod partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol yng Nghymru.
 

Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn sefydlu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, a byddaf yn ei gadeirio fel Prif Weinidog Cymru. Bydd yr aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru.

Bydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru.  I wneud hyn, gall ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru am y canlynol:

  • y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol y mae'r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru;
  • ymgyrraedd at gyflawni'r nod llesiant Cymru lewyrchus gan gyrff cyhoeddus wrth gyflawni datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015;
  • y swyddogaethau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 o'r Ddeddf.

Yn gynharach eleni ysgrifennais at gyrff enwebu yn gofyn am enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr a chyflogwyr. Gallaf gadarnhau bod yr unigolion canlynol wedi derbyn fy ngwahoddiad i ddod yn aelodau o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol:

Cynrychiolwyr Gweithwyr 

Ruth Brady, GMB

Neil Butler, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau

Peter Hughes, Undeb Unite

Gareth Lloyd, Undeb Prifysgolion a Cholegau

Shavanah Taj, TUC Cymru

Jess Turner, UNSAIN

Mike Walker, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol

Helen Whyley, Coleg Nyrsio Brenhinol N

Darren Williams, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol

Cynrychiolydd ar ran cyflogwyr   

Pippa Britton, Sector Gwirfoddol

Y Fonesig Elan Closs-Stephens, Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus

Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach

Y Cynghorydd Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Yr Athro Wendy Larner, Prifysgol Caerdydd

Ian Price, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru

Nicola Prygodzicz, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Janis Richards, Make UK Ltd

Kathryn Robson, Addysg Oedolion Cymru

Hoffwn ddiolch i'r holl gyrff enwebu am gyflwyno unigolion mor gryf ac amrywiol a'r aelodau sydd newydd eu penodi am dderbyn fy ngwahoddiad i ymuno â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. 

Caiff aelodau eu penodi am gyfnod o dair blynedd a ddechreuodd ar 1 Rhagfyr. Bydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn cyfarfod o leiaf dair gwaith y flwyddyn, gyda'r cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal yn gynnar yn 2024.

 Bydd y Cyngor Partneriaeth Cymdeithasol yn gweithio mewn ffordd agored a thryloyw. Bydd yr wybodaeth a'r cyngor a ddarperir i Weinidogion Cymru, a phapurau a chofnodion y cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi ym mhob achos ac eithrio achosion eithriadol. Bydd gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wefan benodol lle bydd y wybodaeth hon ar gael. 

Mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn gwreiddio partneriaeth gymdeithasol wrth wraidd Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hyderus y bydd gweithio'n agos ac yn adeiladol gyda cynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr yn y modd hwn yn ein galluogi i wireddu gwelliannau buddiol i'r ddwy ochr o ran cydraddoldeb, tegwch a lles mewn gweithleoedd ledled Cymru.