Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy Natganiad Llafar ar 15 Medi, hoffwn roi gwybod i Aelodau'r Cynulliad pwy yw Cadeirydd ac Aelodau'r grŵp o arbenigwyr a fydd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth dai ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio

Yn gynharach eleni, gwnaethom dderbyn adroddiad pwysig oddi wrth un o ffrydiau gwaith Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio, ynglŷn â'r problemau tai sy'n wynebu pobl hŷn yng Nghymru. Hefyd, gwelsom gyhoeddi adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ar fodloni anghenion poblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru am dai, sy'n gwneud argymhellion ar gyfer camau i'w cymryd gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol.

Rwy'n hynod falch bod yr Athro Judith Phillips wedi cytuno i gadeirio'r Grŵp. Yr Athro Phillips yw Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Canolfan Heneiddio ac Ymchwil Dementia Cymru. Daw â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad perthnasol yn y maes yn ei sgil.

Dyma aelodau eraill y grŵp:

  • Gary Day, Cyfarwyddwr Tir a Chynllunio McCarthy and Stone Retirement Lifestyles Ltd
  • Angela Morriston, Cyfarwyddwr Quattro Design Architects
  • Walis George, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin
  • Robin Tetlow, Cadeirydd Tetlow King Planning Ltd
  • Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru a Chadeirydd Cynghrair Henoed Cymru
  • Lorraine Morgan, Ymgynghorydd ar Heneiddio. Hyrwyddo’r model cymdeithasol o heneiddio trwy “Iechyd, Gofal Gymdeithasol, Addysg a Thai”
  • Alan Hatton Yeo, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Beth Johnson, wedi ymddeol, ac arweinydd rhaglen Cymru Oed Gyfeillgar, Materion Gwirfoddoli Cymru
  • Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby, Darlithydd Cyswllt, Polisi Cyhoeddus a Heneiddio, y Ganolfan Heneiddio Arloesol, Prifysgol Abertawe
  • Y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Sir Gwynedd a Llefarydd CLlLC ar Dai
  • Parry Davies, Cyfarwyddwr presennol sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Tai yng Nghyngor Sir Ceredigion
  • Dr Malcom Fisk, Canolfan Cyfrifiadureg a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, Brifysgol De Montfort ac Uwch Cymrawd Ymchwil
  • Dr. Chrissie Pickin, Cyfarwyddwr Gweithredol ar Gyfer Iechyd a Lles, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Sarah Rochira Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Prif her y grŵp fydd cynnig cyngor ynglŷn â'r camau ymarferol y gellir eu cymryd i ehangu opsiynau pobl hŷn o ran tai. Bydd yn gallu ystyried yr adroddiadau sydd eisoes wedi'u rhannu gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio a'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru a'u hategu. Mae angen i Dai ddod yn elfen amlycach fyth o'n huchelgais i wneud Cymru'n wlad wych i heneiddio ynddi. Dylem fod yn barod i ddysgu sut y gallwn gyflawni hyn oddi wrth arfer da yng Nghymru a thu hwnt.

Rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i gasglu'r fath amrywiaeth o bobl dalentog at ei gilydd i'n helpu ni â'r gorchwyl hwn, o dan arweinyddiaeth Judith Phillips. Rwy'n siŵr y bydd y grŵp eisiau ymgynghori'n helaeth wrth chwilio am atebion ymarferol. Bydd angen i Awdurdodau Lleol, cymdeithasau tai, adeiladwyr tai, sefydliadau o'r trydydd sector a'n partneriaid ni ym meysydd iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol i gyd gymryd rhan. Felly hefyd bobl hŷn eu hunain. Rydw i eisiau ysgogi trafodaeth genedlaethol ynglŷn â gwella opsiynau o ran tai, ac mae angen i bobl hŷn eu hunain fod yn rhan annatod o'r drafodaeth hon.

Bydd cyfarfod cyntaf y grŵp yn cael ei gynnal ar 17 Rhagfyr 2015. Byddaf yn rhoi adroddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â hynt y gwaith yn y Flwyddyn Newydd.