Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gen i gyflwyno'r Grŵp Cynghori Technegol (TAG) ar TB Buchol cyn ei gyfarfod cyntaf ddydd Mercher 17 Ebrill 2024. 

Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd yr Athro Glyn Hewinson yn cadeirio'r TAG. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth ac fel Cadeirydd Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth TB yn Aberystwyth, bydd yn bwrw ati i arwain y grŵp. 

Dyma aelodau o'r grŵp:

  • Mae Robert Smith yn Wyddonydd Clinigol ac epidemiolegydd clefydau heintus iechyd y cyhoedd, gyda thros 30 mlynedd o brofiad mewn milheintiau, heintiau parasitig a gastroberfeddol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i ragflaenwyr. 
  • Roedd David Grove-White yn Bennaeth yr Adran Iechyd a Lles Da Byw ym Mhrifysgol Lerpwl tan iddo ymddeol yn 2019.  Cymhwysodd yn filfeddyg o Lerpwl yn 1975 a threuliodd ei fywyd gwaith gyda gwartheg godro ac eidion yn y DU a thramor yn y Dwyrain Canol ac Affrica. 
  • Mae Gwenllian Rees yn Ddarlithydd Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, Rheolwr Datblygu Milfeddygol gyda Menter a Busnes ac yn Llywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain.
  • Mae Sarah Tomlinson yn filfeddyg fferm gyda thros 22 mlynedd o brofiad mewn ymarfer clinigol. Hi yw Cyfarwyddwr Technegol y Gwasanaeth Cynghori ar TB (TBAS), prosiect a ariennir gan DEFRA sy'n rhoi cyngor bioddiogelwch TB pwrpasol i geidwaid da byw ledled Lloegr, drwy filfeddygon preifat.
  • Mae Gareth Enticott yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae ei waith wedi archwilio dimensiynau cymdeithasol gwaith rheoli clefydau anifeiliaid, gan ganolbwyntio ar dwbercwlosis buchol yng Nghymru, Lloegr a Seland Newydd.
  • Mae Gareth Edwards yn filfeddyg o Ogledd Cymru. Mae ei yrfa wedi cynnwys gweithio mewn practisau milfeddygol gwledig yn y Gogledd, gwaith ymchwil, y diwydiant fferyllol a'r Llywodraeth. 
  • Mae Ifan Lloyd yn filfeddyg gyda thros 35 mlynedd o brofiad yn gweithio fel milfeddyg clinigol a 17 mlynedd yn bartner mewn practis milfeddygol cymysg yn Abertawe. Mae'n gyfarwyddwr Iechyd Da (gwledig) y partner cyflenwi milfeddygol yn Ne Cymru.
  • Mae Keith Cutler yn filfeddyg gwartheg gweithredol ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn diagnosteg a gwaith rheoli clefydau heintus ar lefel anifail a buches unigol. Ar ôl sawl blwyddyn ar fwrdd y CHeCS a'i ymwneud â Grŵp Technegol CHeCS mae bellach yn cadeirio'r Grŵp Technegol.
  • Mae Sarah Woollatt yn filfeddyg sydd â thros 6 blynedd o brofiad yn bennaf mewn practis anifeiliaid fferm ochr yn ochr ag addysg i fyfyrwyr milfeddygol a chleientiaid fferm.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall yr effaith y mae TB mewn Gwartheg yn ei gael ar iechyd meddwl ffermwyr Cymru ac wedi gwrando ar farn y gymuned ffermio. Blaenoriaeth gyntaf y TAG fydd adolygu'r polisi presennol o ladd ar y fferm. Yn ogystal, yn dilyn argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, bydd y TAG hefyd yn gwahodd sefydliadau allanol i roi tystiolaeth i lywio ei ganfyddiadau.

Ddydd Iau diwethaf (11 Ebrill) ymwelais â fferm a oedd yn cymryd rhan ym Mhrosiect Sir Benfro, ochr yn ochr â'r Athro Hewinson i weld a chlywed yn uniongyrchol am rywfaint o'r gwaith partneriaeth arloesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei wneud rhwng ffermwyr a'u milfeddygon ar lefel leol. Mae'n hanfodol bod y math hwn o gydweithio wrth wraidd y Rhaglen Ddileu, a bydd y TAG yn ganolog i hyn. 

Bydd y TAG yn cyfarfod yn chwarterol i roi cyngor i Weinidogion Cymru drwy Fwrdd y Rhaglen TB sydd ar y gweill.  Yn y cyfamser, hyd nes y bydd Bwrdd y Rhaglen yn cael ei sefydlu, bydd cyngor yn dod ataf drwy'r Prif Swyddog Milfeddygol, Richard Irvine.