Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod i Aelodau am y rheini yr wyf wedi'u penodi i Fwrdd Chwaraeon Cymru, yn dilyn proses recriwtio agored a ddenodd dros 80 o ymgeiswyr.

 

Rwyf wedi penodi Pippa Britton yn Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru. Pippa Britton yw Cadeirydd Chwaraeon Anabledd Cymru ar hyn o bryd ac mae'n gyn-athletwr rhyngwladol.

Rwyf wedi penodi pedwar person arall i'r Bwrdd, gan fod cyfnod sawl aelod yn dod i ben. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau hynny sy'n gadael am eu gwasanaeth. Yr aelodau newydd yw Ashok Ahir, Ian Bancroft, Christian Malcolm ac Alison Thorne. Ar ben hynny, rwyf wedi ailbenodi Richard Parks a Samar Wafa i wasanaethu am dymor arall fel Aelodau'r Bwrdd. Gyda'i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ysbrydoli cymunedau llai egnïol i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon, yn ogystal â dealltwriaeth o anghenion athletwyr elît.

Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau newydd am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau eu swydd, a fydd yn para tair blynedd, ar 1 Hydref.

Rwy'n hyderus bod gan y bwrdd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i'm helpu i a staff Chwaraeon Cymru i gyflawni ein huchelgais i greu cenedl fwy egnïol a llwyddiannus. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Mae Mrs Britton yn aelod hefyd o'r Pwyllgor Anrhydeddau Chwaraeon; Bwrdd Atal Dopio'r DU; Pwyllgor Cynghori ar Ddosbarthiadau Paralympaidd Prydain a Bwrdd Saethu Prydain Fawr. Bu hefyd yn rhan o Raglen Arwain Ryngwladol Chwaraeon y DU ac mae'n aelod o Is-grŵp Chwaraeon Elît Chwaraeon Cymru a Phwyllgor Para-saethu Ffederasiwn Saethu'r Byd.

Mae gan Mr Ahir brofiad o weithio ym myd cyfathrebu a'r cyfryngau.  Ef yw un o cyd-berchnogion asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog sy'n gweithio ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Mr Ahir yw Cadeirydd pwyllgor trefnu Eisteddfod Genedlaethol 2018 ac mae'n aelod o'r bwrdd rheoli. Mae wedi bod yn rhan o Grŵp Adolygu Cymraeg i Oedolion a bu'n Olygydd Gweithredol yn y maes Gwleidyddiaeth i BBC Cymru Wales am sawl blwyddyn.

Mr Bancroft yw Prif Swyddog Newid Sefydliadol Cyngor Sir y Fflint, ac mae'n gyfrifol am bob gwasanaeth hamdden a diwylliannol yn Sir y Fflint. Mae hefyd wedi arwain ar waith i gryfhau cydnerthedd cymunedau. Arferai fod yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Hamdden a Diwylliant Wigan ac yn Rheolwr Busnes a Strategaeth Gwasanaethau Hamdden Cyngor Dinas Nottingham. Mae wedi gweithio ym maes perfformiad chwaraeon a hyfforddi ar ôl iddo gwblhau cwrs gradd mewn gwyddorau chwaraeon ym Mhrifysgol Loughborough a gweithio fel Tiwtor Hyfforddi.

Mr Malcolm yw Prif Hyfforddwr Technegol tîm cyfnewid 4 x 100 Dynion a Menywod Tîm Prydain Fawr a hyfforddwr sbrintio athletwyr Cymreig a Pharalympaidd Prydain Fawr. Mae hefyd yn Aelod o Fwrdd Athletau Cymru ac yn gyfarwyddwr ei academi chwaraeon cymunedol ei hun. Caiff ei adnabod am ei lwyddiannau fel cyn-athletwr elît, ac mae wedi ennill medalau ym mhencampwriaethau Ewrop, y Gymanwlad a'r Byd. Mae hefyd wedi ennill pedair medal yn y Gemau Olympaidd.

Mae Ms Thorne wedi gweithio ar fwrdd gweithredol ac wedi arwain ar lefel fasnachol o fewn cwmnïau manwerthu o’r radd flaenaf. Mae hefyd wedi cynnal rolau anweithredol yn y maes ymgynghori ac i frand ffasiwn a oedd yn cychwyn arni. Gyda thystysgrif ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu, mae wedi helpu i ddatblygu talent newydd yng Ngholeg Ffasiwn Llundain. Treuliodd Alison ddwy flynedd fel partner mewn cwmni chwilio gweithredol cyn sefydlu Atconnect sy'n gwmni datblygu busnesau a phobl. Ar hyn o bryd, mae'n un o ymddiriedolwyr Chwarae Teg, yn arweinydd Cymru ar gyfer Women on Boards, ac yn fentor i Fusnes Cymru.

Arferai Richard fod yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru cyn troi'n athletwr ac yn anturiaethwr mewn amgylcheddau eithafol. Mae wedi cyflawni sawl her eithafol ac mae wedi gweithio gydag ysgolion a cholegau ar draws y DU. Mae hefyd yn ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol De Cymru. Gwasanaethodd Richard fel Team Attaché gyda Thîm Cymru yng Ngemau Cymanwlad Glasgow 2014, ac mae ar fin dechrau ei ail gyfnod fel Aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru.

Mae Samar wedi gweithio'n helaeth ar lawr gwlad ac ar lefel gymunedol, gan weithio gydag elusennau lleiafrifol ac ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg niferus. Mae wedi gweithio gyda Gemau Olympaidd Llundain 2012 a Chwpan Rygbi'r Byd yn ogystal ag UEFA, Sport Cardiff a Hanner Marathon Caerdydd. Mae Samar ar fin dechrau ei hail gyfnod fel Aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru.