Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi enwau dau aelod newydd o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Ysgrifennais yn ddiweddar at gyrff enwebu yn gofyn am enwebiadau ar gyfer y swyddi cynrychioli cyflogwyr sy'n wag. Gallaf gadarnhau bod Joshua Miles, Cyfarwyddwr Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, ac Aled Edwards, cadeirydd y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus, wedi derbyn fy ngwahoddiad i ymuno â'r Cyngor.
Hoffwn groesawu Joshua ac Aled, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw a pharhau â gwaith pwysig y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Mae Joshua ac Aled wedi ymuno ag aelodau presennol y Cyngor:
Cynrychiolwyr Gweithwyr
Ruth Brady, GMB
Neil Butler, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau
Peter Hughes, Undeb Unite
Gareth Lloyd,
Undeb Prifysgolion a Cholegau
Shavanah Taj, TUC Cymru
Jess Turner, Unsain
Mike Walker, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol
Helen Whyley, y Coleg Nyrsio Brenhinol
Sian Boyles, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol
Cynrychiolwyr Cyflogwyr
Pippa Britton, y Sector Gwirfoddol
Russell Greenslade, Busnes
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Llywodraeth Leol
Yr Athro Wendy Larner, Addysg Uwch
Nicola Prygodzicz, Iechyd
Janis Richards, Busnes
Kathryn Robson, Addysg Bellach
Mae Joshua yn cymryd lle Ben Cottam ac Aled yn cymryd lle'r Fonesig Elan Closs-Stephens ar ochr cynrychiolwyr y cyflogwyr. Hoffwn dalu teyrnged i Ben a'r Fonesig Elan am eu gwasanaeth ac am helpu i sefydlu'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Cafodd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, sy'n cael ei gadeirio gennyf i yn rhinwedd fy rôl fel Prif Weinidog Cymru, ei sefydlu o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 (y Ddeddf). Mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat, a'r trydydd sector yng Nghymru.
Mae'r Cyngor yn rhoi gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru ynglŷn â'r canlynol:
- y dyletswyddau o ran partneriaeth gymdeithasol y mae'r Ddeddf hon yn eu gosod ar gyrff cyhoeddus a Gweinidogion Cymru;
- gwaith y cyrff cyhoeddus i gyflawni nod llesiant Cymru Lewyrchus, wrth iddynt wneud gwaith datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
- y swyddogaethau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol a roddir i awdurdodau contractio a Gweinidogion Cymru o dan Ran 3 o'r Ddeddf.
Mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn gweithredu mewn ffordd agored a thryloyw. Ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol, cyhoeddir yr wybodaeth a'r cyngor a ddarperir i Weinidogion Cymru, a phapurau a chofnodion cyfarfodydd, ar ei wefan: y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Mae'r Cyngor yn sicrhau bod Partneriaeth Gymdeithasol yn ganolog i weithgarwch Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hyderus y bydd parhau i weithio'n agos ac yn adeiladol gyda chynrychiolwyr cyflogwyr a gweithwyr yn y modd hwn yn ein galluogi i gyflwyno gwelliannau sy'n fuddiol i'r ddwy ochr o ran cydraddoldeb, tegwch a llesiant mewn gweithleoedd ledled Cymru.
Mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi cyflawni llawer yn 2025. Aethom ati i ymgynghori â'r Cyngor ar ein blaenoriaethau deddfwriaethol, ein hamcanion lles blynyddol a'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27. Cymeradwyodd y Cyngor adroddiad blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi monitro cynnydd Deddf Hawliau Cyflogaeth y DU a'i Strategaeth Ddiwydiannol er mwyn helpu i ddeall eu heffaith yma yng Nghymru yn well.
Mae'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi sefydlu is-grŵp i edrych ar sgiliau'r gweithlu mewn perthynas ag AI, ac is-grŵp hefyd i ddatblygu set o fesurau i wella gwaith teg drwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru. Mae camau mawr wedi'u gwneud i sefydlu'r is-grŵp caffael cymdeithasol gyfrifol statudol, ac mae ei aelodaeth yn cael ei gytuno'n derfynol ar hyn o bryd.
