Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi bod yn glir ynghylch ei hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r rhain yn broblemau cymdeithasol, ac mae angen ymateb iddynt mewn modd cymdeithasol.
Rwy’n siŵr y byddwch i gyd yn ymwybodol o’r ffocws yn y cyfryngau dros y misoedd diwethaf ar aflonyddu a cham-drin sy’n cynnwys sefydliadau proffil uchel, gan gynnwys rhai cyrff yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwy’n cydnabod bod yr adroddiadau hyn yn destun pryder mawr. Mae enghreifftiau brawychus o dorri ymddiriedaeth y cyhoedd gan rai mewn safleoedd o awdurdod wedi tynnu sylw at y peryglon a berir, nid dim ond i’r unigolion y mae pobl y dylent allu ymddiried ynddynt yn aflonyddu arnynt neu’n eu cam-drin, ond hefyd i’r hyder ehangach bod sefydliadau cyhoeddus wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais o bob math yn erbyn menywod.
I newid hyn, rhaid inni wynebu’r cam-drin yn uniongyrchol, drwy gefnogi goroeswyr a herio agweddau a chredoau diwylliannol sy’n arwain at ymddygiad camdriniol.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i atgyfnerthu’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws penodol ar aflonyddu yn y gweithle, yn ogystal ag yn y cartref ac mewn mannau cyhoeddus, er mwyn sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.
Rydym wedi cyhoeddi ein Strategaeth Genedlaethol pum mlynedd newydd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022 i 2026, sy’n cynnwys ymrwymiad i fynd i’r afael ag “aflonyddu a thrais rhywiol, a’r ymddygiadau sy’n eu galluogi, ym mhob rhan o’n cymdeithas”. Bydd y Strategaeth yn cael ei chyflawni drwy ‘ddull glasbrint’ ar y cyd, sy’n dod ag awdurdodau perthnasol fel y’u diffinnir yn y Ddeddf at ei gilydd, yn ogystal â sefydliadau datganoledig a sefydliadau sydd heb eu datganoli. Mae’r dull hwn yn cryfhau’r bartneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector arbenigol i helpu i sicrhau newid ar draws y gymdeithas gyfan.
Hefyd, creodd ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy’n ddeddf arloesol, ddyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru i gyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hyn mewn cymunedau lleol. Mae’r strategaethau hyn yn cael eu hadolygu gan fy swyddogion a Chynghorwyr Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Fel rhan o’r strwythur glasbrint, rwy’n cyd-gadeirio’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol gyda Dafydd Llewelyn, sef prif Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru. Bydd y bwrdd yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth a’r chwe llif gwaith glasbrint.
Un o’r llifoedd gwaith yw ‘Aflonyddu yn y gweithle’, a fydd yn cynnig ffocws ac arbenigedd ar gyfer dull arloesol o ymdrin â’r materion hyn, gyda’r nod o sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel i weithwyr. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan gyflogwyr yr offer, y sgiliau, y strwythurau a’r arweinyddiaeth i ddelio ag achosion o dorri ymddiriedaeth pan fyddant yn digwydd. Bydd peth o’r gwaith hwn yn cynnwys partneriaid glasbrint gan sicrhau bod gennym y polisïau a’r prosesau cywir ar waith yn ein sefydliadau ein hunain.
Bydd y cynllun gweithredu ar gyfer y llif gwaith hwn yn cynnwys casglu tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio a hyrwyddo arferion rhagorol, cyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth ar y cyd ac offer megis caffael cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod polisïau adnoddau dynol yn effeithiol o ran lleihau aflonyddu yn y gweithle ac ymateb iddo. Drwy ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn, byddwn yn parhau i fynd i’r afael ag agweddau negyddol a chodi ymwybyddiaeth o stelcio, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys yn y gweithle ac mewn mannau cyhoeddus. Mae’r ymgyrchoedd hyn yn rhoi cyngor ymarferol i’r rhai a all fod yn cael eu haflonyddu neu eu cam-drin ac yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i alluogi ffrindiau, teulu a’r gymuned ehangach i adnabod achosion o gam-drin a chymryd camau gweithredu diogel.
Mae achosion o aflonyddu, cam-drin a thrais yn digwydd yn ddyddiol i fenywod ac maent wedi effeithio ar eu bywydau am lawer rhy hir. Rydym wedi ymrwymo i herio a mynd i’r afael â’r agweddau a’r ymddygiadau niweidiol hyn yn uniongyrchol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n cynghorwyr rhanbarthol a’n partneriaid ym maes troseddu a chyfiawnder i lunio ac i ariannu gwasanaethau i’r rhai sy’n arddangos yr ymddygiadau niweidiol hyn; gan ddarparu cyfleoedd i newid ac i roi terfyn ar y cylchoedd hyn o gam-drin. Mae ein hymgyrchoedd Dim Esgus a Byw Heb Ofn, yn ogystal â chefnogi goroeswyr, wedi gweld cynnydd cyson mewn galwadau gan bobl sy’n gofyn am gefnogaeth i roi terfyn ar eu hymddygiad camdriniol eu hunain.
Mae gan fenywod a merched yr hawl i fod yn saff ym mhob agwedd ar eu bywydau. Dylent deimlo’n saff wrth adrodd am aflonyddu neu gam-drin, a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth wneud hynny. Dylent fod yn saff ym mhob man cyhoeddus. Dylent fod yn saff gartref, yn y gwaith, ac yn yr ysgol neu’r brifysgol. Dylent fod yn saff yn ystod y dydd ac yn ystod y nos. Ni ddylai fod angen i fenywod newid eu hymddygiad. Camdrinwyr ddylai fod yn newid eu hymddygiad nhw. Bydd dull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod ar draws y gymdeithas gyfan ar sail atal ac ymyrraeth gynnar yn ein helpu i herio a newid yr ymddygiadau hyn yn uniongyrchol.
Rydym wedi ymrwymo i herio a mynd i’r afael â chasineb at fenywod ac anghydraddoldebau strwythurol hirsefydlog, agweddau negyddol ac ymddygiadau niweidiol yn uniongyrchol, mewn partneriaeth â phartneriaid allweddol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector arbenigol, fel y gall pob menyw a merch yng Nghymru fyw heb ofn.