Neidio i'r prif gynnwy

Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Mae disgwyl i Gymru greu record byd flwyddyn nesaf pan gaiff Llwybr Arfordir Cymru ei agor yn swyddogol ddydd Sadwrn 5 Mai 2012. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i agor llwybr ffurfiol o amgylch yr arfordir cyfan.

 

Un o amcanion Cymru’n Un yw agor y llwybr 861 milltir, a bydd yn cael ei agor yn dilyn chwe blynedd i fuddsoddiad gan Lywodraeth y Cynulliad a WEFO drwy’r Rhaglen Gwella Mynediad i’r Arfordir, gyda chryn ymdrech gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, awdurdodau lleol a’r Parciau Cenedlaethol arfordirol.

 

Ar hyn o bryd mae 779 milltir o’r llwybr yn agored i gerddwyr, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau’r rhannau sy’n weddill erbyn 5 Mai flwyddyn nesaf, union flwyddyn ar ôl etholiad y Cynulliad, a chyn Gemau Olympaidd Llundain 2012.

 

Ers dechrau’r rhaglen yn 2007, rydym wedi creu 76 milltir o lwybr arfordirol newydd, a gwella 244 milltir o’r llwybr presennol. Bydd y Rhaglen Gwella Mynediad i’r Arfordir yn parhau tan fis Mawrth 2013, sy’n golygu y bydd modd parhau i wella’r llwybr.

 

Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn adnodd twristiaeth a hamdden gwerthfawr iawn. Bydd y llwybr yn denu ymwelwyr newydd i’r arfordir, gyda manteision economaidd yn lleol, ac yn bwysicaf oll mewn rhannau gwledig o Gymru, gan roi’r cyfle hefyd i bobl leol gael mynediad gwell i’r arfordir.