Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n falch o gyhoeddi’r ceisiadau fu yn llwyddiannus ar gyfer ail gylch a chylch terfynnol y ceisiadau ar gyfer y cyllid o £2 filiwn o’r Gronfa Datblygu Porthladdoedd.  

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad sylweddol pob porthladd morol yng Nghymru i wella ffyniant economaidd, i ddatblygu swyddi ac i sicrhau bod gan Gymru gysylltiadau rhyngwladol.  

Mae hon yn flwyddyn bontio bwysig inni ac rydym yn edrych ymlaen at ddatganoli swyddogaethau sy’n gysylltiedig â phorthladdoedd o dan Ddeddf Cymru.  Bydd y datganoli yn arwydd o gontract newydd rhwng y sector a Llywodraeth Cymru.  Bydd yn gyfle gwerthfawr inni wella ein perthynas a gwella’r ffordd yr ydym yn gweithio er mwyn sicrhau llewyrch yng Nghymru.  

Gyda hyn mewn golwg, lansiwyd ein Cronfa Datblygu Porthladdoedd ym mis Ebrill i gynorthwyo porthladdoedd yng Nghymru i wireddu eu potensial.  Bydd y cyllid hefyd yn cynorthwyo porthladdoedd i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a lleihau y risgiau sydd i’w gweithgarwch economaidd o ganlyniad i Brexit.

Roedd amrywiol borthladdoedd ledled Cymru yn llwyddiannus yn eu cais ar gyfer y cylch cyntaf o gyllid, gyda chyfanswm o £827,000 yn cael ei ddyfarnu ym mis Gorffennaf.  Rwyf bellach wedi dyfarnu £1.1 miliwn ychwanegol i:  

  • Borthladd Caergybi
  • Porthladd Mostyn
  • Harbwr Conwy 
  • Awdurdod Porthladd Castell-nedd
  • Porthladd Aberdaugleddau
  • Porthladd Bird 
  • Porthladdoedd Prydeinig Cysylltiedig (ABP) – De Cymru 
  • Ymddiriedolaeth Porthladd Saundersfoot 
Rwyf bellach yn edrych ymlaen at weld y manteision i economïau a chymunedau rhanbarthol a lleol o ganlyniad i’r prosiectau hyn.