Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ar 13 Mehefin, cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn ail uwchgynhadledd ar hugain Cyngor Prydain-Iwerddon yn Guernsey. Cadeiriwyd y gynhadledd gan Brif Weinidog Guernsey, y Dirprwy Jonathan Le Tocq. Roedd arweinwyr Llywodraethau eraill aelodau’r Cyngor yn bresennol hefyd, gan gynnwys:
- An Taoiseach, Mr. Enda Kenny TD, Llywodraeth Iwerddon
- Y Dirprwy Brif Weinidog, y Gwir Anrh Nick Clegg AS, Llywodraeth y DU,
- Prif Weinidog Llywodraeth Gogledd Iwerddon, y Gwir Anrh Peter Robinson MLA, a’r dirprwy Brif Weinidog, Mr Martin McGuinness MLA
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Materion Allanol, Ms Fiona Hyslop MSP, Llywodraeth yr Alban,
- Prif Weinidog, y Seneddwr Ian Gorst, Llywodraeth Jersey,
- Prif Weinidog, Yr Anrh. Allan Bell MHK, Llywodraeth Ynys Manaw.
Mae Cyngor Prydain-Iwerddon yn hyrwyddo a meithrin cysylltiadau rhwng Llywodraethau ei Aelodau ac yn fforwm ymgynghori a chydweithredu.
Dyma oedd ar yr agenda: clywed adroddiadau am eu heconomi gan Lywodraethau’r Aelodau; trafodaeth am bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth i’r economi ac ystyried gwaith y Cyngor sy’n mynd rhagddo.
Cafodd prif bwyntiau trafod yr ail Uwchgynhadledd ar hugain eu cyhoeddi mewn Communiqué ar y cyd.
http://www.britishirishcouncil.org/news/22nd-british-irish-council-summit-held-guernsey