Neidio i'r prif gynnwy

Ieuan Wyn Jones, Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Yn 2008, rhoddais arian i sefydlu gwasanaeth trên cyflym, Y Gerallt Gymro, rhwng Caergybi a Chaerdydd.

Mae’r gwasanaeth pwysig hwn yn allweddol i wireddu’r ymrwymiad yn “Cymru’n Un” i leihau amseroedd teithio rhwng y De a’r Gogledd. Mae’r gwasanaeth wedi dod yn boblogaidd iawn ac mae wedi cryfhau’r cysylltiadau economaidd rhwng y De a’r Gogledd.

Rwyf wedi penderfynu cyflwyno ail wasanaeth trên cyflym, a hynny o fis Mai 2011, dydd Llun - dydd Gwener. Ar y dechrau, bydd y gwasanaeth yn defnyddio trên Dosbarth 175, a fydd y yn ategu gwasanaeth presennol Y Gerallt Gymro. Bydd yr amseroedd teithio yn gystadleuol o ystyried cyfyngiadau’r seilwaith presennol, gan y bydd y trên yn gadael Caergybi am 07:51 ac yn cyrraedd Caerdydd am 12:08, wedyn, gyda’r nos yn gadael Caerdydd am 18:18 i gyrraedd Caergybi am 22:34.

Rwy’n gwybod, wrth i ni baratoi’r cynigion hyn, bod rhai Aelodau ac Arweinwyr Cynghorau wedi mynegi pryder na fyddai’r gwasanaeth yn galw mewn gorsafoedd ar Arfordir y Gogledd nac yn Wrecsam.

Erbyn hyn, gallaf gadarnhau y bydd y trên yn stopio yn Wrecsam wrth fynd i’r ddau gyfeiriad. Bydd gwasanaeth y bore yn galw yng Nghaergybi, Bangor, Cyffordd Llandudno, Bae Colwyn, y Rhyl, Caer, Wrecsam, Rhiwabon, y Waun, Gobowen, yr Amwythig, Casnewydd a Chaerdydd. Ar ôl gadael Caerdydd, bydd y trên gyda’r nos yn galw yng Nghasnewydd, y Fenni, Henffordd, yr Amwythig, Gobowen, Rhiwabon, Wrecsam, Caer, y Rhyl, Bae Colwyn, Cyffordd Llandudno, Bangor a Chaergybi. Dyma’r patrwm gorau y gellir ei lunio ar gyfer teithio o fewn targedau amseroedd rhwng Caergybi a Chaerdydd trwy Wrecsam, sef oddeutu 4 awr ac 17 munud.

Er mwyn i’r ail wasanaeth trên allu galw yng Ngorsaf Gyffredinol Wrecsam yn y bore, rwyf wedi gofyn i Drenau Arriva Cymru drefnu i anfon gwasanaeth rhyngwladol 07:15 Caergybi – Birmingham trwy Crewe yn lle trwy Wrecsam. Fel arall ni fyddai’n bosibl i’r ail wasanaeth trên cyflym alw yn Wrecsam oherwydd y cyfyngiadau ar y seilwaith, sef y trac sengl rhwng Wrecsam a Chaer. Mae hynny’n golygu na all y gwasanaeth rhyngwladol 07:15 Caergybi – Birmingham alw yn Rhiwabon, y Waun a Gobowen o hyn ymlaen. Felly, bydd y gwasanaeth cyflym newydd yn galw yn y gorsafoedd hyn er mwyn osgoi sefyllfa lle byddai bwlch o ddwy awr yn y boreau. Bydd y teithwyr sy’n mynd i Birmingham, sy’n ymuno â’r trên yn y gorsafoedd hyn, yn gallu cwblhau eu taith trwy newid trenau ac ymuno â thrên y gwasanaeth 07:15 Caergybi – Birmingham yn yr Amwythig.

Bydd y gwasanaeth Dosbarth 175 yn cynnig gwasanaeth troli gwell ar gyfer darparu lluniaeth, gan gynnwys rhywfaint o fwyd poeth.

O’r newidiadau yn yr amserlen ym mis Rhagfyr 2011, bydd locomotif Dosbarth 67, gyda cherbydau sy’n debyg i’r rheini a ddefnyddir ar Y Gerallt Gymro, yn cael ei ddefnyddio yn lle’r trên Dosbarth 175. Bydd cerbyd dosbarth cyntaf a chyfleusterau bwyta tebyg i’r rheini sydd ar gael ar hyn o bryd ar Y Gerallt Gymro ar gael ar y gwasanaeth hwn. Rwy’n rhoi arian i wneud gwaith ailwampio sylweddol ar y cerbydau hyn cyn iddynt gael eu defnyddio ar y gwasanaeth newydd.

Rwy’n parhau i fod wedi ymrwymo i anfon gwasanaeth gwreiddiol Y Gerallt Gymro trwy Wrecsam yn hytrach na thrwy Crewe. Bydd yr astudiaeth yr wyf yn ei hariannu oddi wrth Network Rail i weld sut y gellir gwella’r seilwaith rhwng Caergybi a Chaerdydd, yn cael ei chwblhau erbyn diwedd Ebrill. Bydd yn ystyried opsiynau ar gyfer gwella’r capasiti ar y rheilffordd rhwng Caer a Wrecsam, gyda’r nod o leihau amseroedd teithio yn sylweddol ar yr holl wasanaethau ac o anfon y trên cyflym, sydd ar ei daith yn ôl, trwy Wrecsam. Rwy’n disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod y flwyddyn nesaf.

Wrth i dymor y Llywodraeth hon ddod i ben, rwy’n credu fy mod wedi cymryd camau pwysig i wella’r ddarpariaeth drafnidiaeth rhwng y Gogledd a’r De. Mae hynny’n bwysig i economi ein gwlad ac o ran lleihau amseroedd teithio i deithwyr.