Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi penodiad y Farwnes Tanni Grey-Thompson i ail dymor o dair blynedd fel Cadeirydd Bwrdd Chwaraeon Cymru. Mae Tanni wedi rhagori'n fawr yn ystod ei thymor cyntaf, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n parhau i arwain y sector chwaraeon yng Nghymru yn gadarnhaol dros y tair blynedd nesaf.

Rwy'n falch hefyd o gyhoeddi y bydd Rajma Begum, Hannah Murphy a Nicola Mead-Batten yn gwasanaethu am gyfnod pellach o 13 mis fel rhan o'r mesurau parhaus i sicrhau sefydlogrwydd o ran aelodaeth y Bwrdd. Bydd eu tymhorau yn dod i ben ar 30 Medi 2026.

Bydd tymhorau Delyth Evans a Dafydd Trystan Davies ar y Bwrdd yn dod i ben ym mis Medi 2025 a hoffwn ddiolch i'r ddau am eu gwasanaeth rhagorol ar y Bwrdd dros y chwe blynedd diwethaf. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Pe bai'r Aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.