Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser mawr gen i gyhoeddi ailbenodiad Anne Davies a Nia Elias fel aelodau i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.  Bydd ailbenodiad y ddwy yn cychwyn ar 24 Chwefror 2023 am gyfnod o dair blynedd.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sydd yn sefydlu’r Panel Cynghori, yn nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, i’r graddau bo hynny yn ymarferol, bod o leiaf tri ond dim mwy na phum aelod ar y panel ar unrhyw adeg.  Mae ailbenodi Anne a Nia yn ychwanegol i’r tri aelod presennol sef Rona Aldrich, Elin Maher a Gwyn Williams yn sicrhau bod gan y panel yr ystod o sgiliau a phrofiadau sy’n angenrheidiol wrth iddynt roi cyngor i’r Comisiynydd ar faterion sydd yn berthnasol i’w swyddogaethau.

Mae Anne Davies yn Athrawes y Gyfraith a Pholisi Cyhoeddus yn Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae ganddi arbenigedd ym maes ysgrifennu am gyfraith gyflogaeth ac am y gyfraith gyhoeddus, yn enwedig, am gytundebau llywodraeth. Cafodd Anne ei geni a’i magu yn Lloegr ac mae ganddi gysylltiadau teuluol gyda gogledd a gorllewin Cymru. Dysgodd Cymraeg fel oedolyn ac felly’n cyfrannu safbwynt dysgwyr i drafodaethau’r Panel Cynghori.

Mae Nia Elias yn aelod o Uwch Dîm Gweithredol Amgueddfa Cymru ac yn arwain ar godi arian i’r elusen gyda’i thimoedd Mentrau a Dyngarwch. Yn ogystal, mae hi’n gwirfoddoli fel Cyfarwyddwr ar Fwrdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cafodd ei geni yng Nghasnewydd, ac mae wedi’u magu yng Nghaerfyrddin gyda chysylltiadau teuluol cryf â Cheredigion.  Mae Nia nawr yn byw gyda’i theulu ifanc ym Mro Morgannwg. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl. Ar ôl astudio hanes ym Mhrifysgol Warwick, datblygodd Nia yrfa mewn digwyddiadau corfforaethol a chodi arian yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd, Tŷ Somerset a’r Oriel Tate. Yn ystod ei hamser yn Llundain fuodd gwirfoddoli i godi arian dros gylchoedd meithrin Cymraeg y ddinas. Treuliodd Nia bum mlynedd fel Dirprwy Gyfarwyddwr Perfformiad Busnes yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn arwain timau cynhyrchu incwm a phrofiad cwsmeriaid. Mae ei phrofiad ymarferol o arwain ar weithredu Safonau'r Gymraeg o fewn y sefydliad yn cynnig safbwynt pwysig i drafodaethau’r panel yn ogystal â’i phrofiad o fod yn Gyfarwyddwr dros dro i elusen Blood Cancer UK yn ystod 2020 gyda thimoedd ar draws DU a buddiolwr dwyieithog yng Nghymru.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg:

“Fel Comisiynydd y Gymraeg newydd rwy'n falch bod Anne a Nia wedi cael eu hailbenodi i fy Mhanel Cynghori.  Mae'r ddau yn cynnig safbwyntiau gwahanol i drafodaethau'r Panel Cynghori yn seiliedig ar eu harbenigedd o fewn eu priod feysydd. Wrth edrych ar y Panel cyfan, rwy'n hyderus ei fod yn banel effeithiol a phrofiadol a fydd yn gallu cynnig cyngor gwerthfawr wrth i mi ymgymryd â'm rôl ".