Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pleser yw cyhoeddi bod Ann Evans wedi cael ei hailbenodi yn Gadeirydd Cymwysterau Cymru.  

Yn wreiddiol, penodwyd Ann yn Gadeirydd Cymwysterau Cymru ym mis Mawrth 2015, a hynny am gyfnod o dair blynedd. Bydd yn parhau yn Gadeirydd am 18 mis arall.

Mae Ann yn dod â chryn dipyn o brofiad i’w swydd fel Cadeirydd. Mae hi wedi bod yn ymgynghorydd addysg annibynnol ers 2012, ar ôl pedair blynedd fel Prif Weithredwr Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys. Bu’n Brif Weithredwr Cynorthwyol Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Cyn hynny, roedd Ann yn athrawes. Symudodd ymlaen wedyn i fod yn ddarlithydd ac yn rheolwr mewn Addysg Bellach.

Nid oes modd i mi orbwysleisio pa mor bwysig yw rôl Cymwysterau Cymru a gwaith y Cadeirydd; rwyf wrth fy modd â’r ailbenodiad hwn.