Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cylch ailbrisio ardrethi annomestig nesaf yng Nghymru yn dod i rym yn 2023, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2021.

Bydd gohirio’r cylch ailbrisio tan 2023 yn golygu y bydd y gwerthoedd ardrethol, y mae biliau ardrethi yn seiliedig arnynt, yn adlewyrchu effaith COVID-19 yn well. Bydd y newid hefyd yn golygu y bydd y cylch ailbrisio nesaf yng Nghymru yn dod i rym yr un pryd ag yn Lloegr, gan sicrhau na fydd busnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru o dan anfantais o’u cymharu â’r rhai mewn mannau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymchwilio i ffyrdd o ddiwygio'r system trethi lleol mewn modd mwy sylfaenol. Rwyf eisoes wedi rhoi amlinelliad o'n dull gweithredu ar gyfer diwygio trethi lleol – y dreth gyngor a'r ardrethi annomestig – fel rhan annatod o system gyllid ehangach llywodraeth leol. Cyhoeddais yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith hwn fis Tachwedd diwethaf. 

Wrth ddiwygio'r system trethi lleol, ein nod yw cryfhau cadernid ein hawdurdodau lleol; sicrhau tegwch i ddinasyddion a busnesau; a hefyd sicrhau bod cyllid cynaliadwy ar gael i ariannu gwasanaethau lleol hanfodol.

Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o'n nodau tymor byr ar gyfer datblygu system ardrethi annomestig yng Nghymru ac rydym bellach yn ystyried cwestiynau ehangach a mwy tymor hir. Mae’r rhain yn cynnwys a fyddai'n ymarferol defnyddio dulliau gweithredu gwahanol ar gyfer prisio eiddo; a fyddai hynny'n decach; ac a fyddai manteision i wasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Rydym hefyd yn edrych ar botensial opsiynau eraill i godi refeniw o eiddo annomestig yn y tymor hir.

Byddai angen i unrhyw newidiadau sylfaenol i ardrethi annomestig yng Nghymru gael eu hystyried a’u datblygu dros gyfnod hirdymor. Ein bwriad yw dod â chanlyniadau ein rhaglen waith at ei gilydd a’u cyhoeddi yn yr hydref, er mwyn llywio’r ddadl ynghylch cyllid llywodraeth leol cyn tymor nesaf y Senedd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sicrhau bod y broses ailbrisio ar gyfer 2023 yn cael ei gweithredu mewn modd amserol a chywir, gan adlewyrchu ein huchelgais ar gyfer pobl a busnesau Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.