Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy ymateb diweddar i’r adroddiad ardrethi busnes a baratowyd gan yr Athro Morgan, cyfeiriad at y cynigion gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol i ohirio dyddiad yr ymarfer ailbrisio ardrethi annomestig nesaf tan 2017.

Esboniais ar y pryd na fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniad ar unwaith ynghylch pryd fydd yr ailbrisio’n digwydd yng Nghymru, ac y byddwn yn ymgynghori ymhellach ar y mater hwn.  

Fodd bynnag, cyn bod modd gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch pryd fydd yr ailbrisio’n digwydd, mae angen i Weinidogion Cymru sicrhau’r pwerau angenrheidiol i’w galluogi i wneud penderfyniad o’r fath. Rwyf wedi trefnu felly i welliant gael ei gyflwyno i’r Bil Twf a Seilwaith sy’n wrthi’n cael ei drafod yn Senedd y DU.  

Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn amlinellu’r amserlen gyfredol ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal yr ymarfer ailbrisio yn 2015. Bydd y gwelliannau arfaethedig i’r Bil Twf a Seilwaith yn diwygio Deddf 1988 i roi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddewis dyddiad gwahanol. Bydd gan Weinidogion yr opsiwn i ddewis 1 Ebrill yn 2016, 2017, 2018, 2019 neu 2020. Ar ôl dewis y dyddiad perthnasol, bydd y cylch pum mlynedd ar gyfer ailbrisio yn ailddechrau.

Gan fod gan Gynulliad Cymru gymhwysedd deddfwriaethol dros y mater hwn, yn fuan byddaf yn trefnu i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol priodol gael ei lunio.

Byddaf yn hysbysu Aelodau’r Cynulliad ar unwaith wedi i benderfyniad gael ei wneud ynghylch pryd fydd yr ailbrisio nesaf yn digwydd yng Nghymru. Yn y cyfamser, hoffwn annog unrhyw un â buddiant i anfon eu safbwyntiau ar y mater hwn i Lywodraeth Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.