Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Tachwedd 2023, rhoddais wybod i'r Aelodau mewn datganiad llafar am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2023 yn nodi'r cynllun gweithredu cychwynnol ar gyfer ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru. 

Heddiw, rwy'n rhoi diweddariad pellach ar gynnydd y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth wrth inni symud tuag at weithredu. Mae hon yn rhaglen uchelgeisiol, a fydd yn sefydlu'r sylfeini allweddol sydd eu hangen i gyflawni ein hymrwymiad ar y cyd yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru i weledigaeth hirdymor o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Mae hefyd yn elfen bwysig o gam cyntaf y Cynllun Gweithredu Cychwynnol.

Bydd tri phrif faes ffocws ar gyfer y rhaglen Ailgydbwyso. 

Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yw'r fframwaith deddfwriaethol. Bydd yn cael ei sefydlu drwy god ymarfer statudol, a fydd yn gymwys i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG, ac awdurdodau lleol. Mae'r Fframwaith Cenedlaethol wedi'i gydgynhyrchu gan aelodau o grŵp technegol cenedlaethol a'i ddiwygio a'i gryfhau gan ddefnyddio'r adborth a gafwyd drwy'r ymgynghoriad. Bydd yn gosod yr egwyddorion a'r safonau ar gyfer comisiynu ymarfer a lleihau cymhlethdodau. Bydd y cod drafft yn cael ei osod gerbron y Senedd cyn bo hir, ac yn dod i rym ym mis Medi.

Er mwyn cefnogi comisiynwyr i gyflawni'r egwyddorion a'r safonau a nodir yn y cod, byddwn yn sefydlu pecyn cymorth digidol o arferion da. Bydd y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth yn arwain ar y gwaith hwn yn ystod ei blwyddyn gyntaf.

Mae'r Swyddfa Genedlaethol yn rhan bwysig arall o'n rhaglen. Croesawodd llawer o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad y Swyddfa Genedlaethol, gan ddweud y byddai'n cryfhau gofal cymdeithasol ac yn rhoi'r llais sydd ei angen arno ar lefel genedlaethol. Mae'r adborth adeiladol a gawsom hefyd wedi ein helpu i'w datblygu'n well.

Bydd y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth yn cael ei sefydlu o fis Ebrill 2024 ymlaen a bydd y ffocws cychwynnol ar dri maes craidd, yn ogystal â mabwysiadu dull gweithredu cydweithredol sy'n edrych tuag allan. Y tri maes yw:

  • Cefnogi Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru 
  • Datblygu, gweithredu a darparu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Cymru yn barhaus
  • Gweithredu a rheoli'r Fframwaith Cenedlaethol yn barhaus.

Gwerth craidd y Swyddfa Genedlaethol fydd: "Darparu cymorth arweiniol canolog i'r sector drwy ysgogi gwelliannau yn y ddarpariaeth genedlaethol o ofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn sicrhau cydweithio; a chanlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i ddefnyddwyr gwasanaethau".

Y trydydd maes ffocws yw cryfhau gweithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau drwy ddiwygio'r Cod Ymarfer Rhan 2 ar swyddogaethau gofal cymdeithasol cyffredinol awdurdodau lleol, a thrwy ddiwygio'r rheoliadau a'r canllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth. 

Mae'r diwygiadau i'r Cod Rhan 2 wedi canolbwyntio'n bennaf ar egluro'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr gwasanaethau a'r trydydd sector – ac ar bwysigrwydd ymgysylltu a chydgynhyrchu â dinasyddion wrth ddylunio a darparu gofal a chymorth, a rhoi llais iddynt yn y gwaith hwnnw. 

Bydd y Cod Rhan 2 newydd yn cael ei osod ochr yn ochr â'r Fframwaith Cenedlaethol a bydd yn dod i rym ar yr un dyddiad. 

Byddwn hefyd yn cyhoeddi'n fuan set o ddiwygiadau i Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) er mwyn ymgynghori arnynt, gyda'r nod o gryfhau rôl a swyddogaethau'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. 

Mae hyn yn cynnwys ehangu amcanion y Byrddau ac estyn eu haelodaeth; sicrhau bod eu haelodau – yn eu plith dinasyddion, gofalwyr di-dâl a'r rhai sy'n gweithio yn trydydd sector yn cael eu cefnogi'n well; ac egluro trefniadau cynllunio ac adrodd. Y nod cyffredinol yw gwreiddio arferion gorau presennol yn y fframwaith deddfwriaethol, sy'n llywodraethu gwaith partneriaethau rhanbarthol, a sicrhau bod y rheoliadau a'r canllawiau yn adlewyrchu'n llawn y ffordd y mae'r Byrddau wedi datblygu ac aeddfedu ers iddynt gael eu sefydlu yn 2016. 

Wrth lunio'r rheoliadau drafft hyn, roedd yr adborth eang a gafwyd drwy'r ymgynghoriad ar y rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth yn help mawr. 

Rydym yn bwriadu cyflwyno rheoliadau a chanllawiau statudol wedi'u diweddaru yn ystod tymor yr hydref, a bydd y rhain yn dod i rym ar 31 Rhagfyr.