Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf yn falch o allu cadarnhau heddiw bod pob un o gyrff y GIG wedi bodloni eu targed ariannol statudol i fantoli eu cyfrifon yn 2012-13 a’u bod o gyd wedi cael barn ddiamod ar eu cyfrifon gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi celu’r ffaith bod GIG Cymru wedi wynebu ac yn parhau i wynebu heriau ariannol anodd wrth i Lywodraeth y DU barhau i dorri cyllideb Cymru ymhellach byth. Trwy reoli cyfanswm y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ofalus, bu modd i’r GIG gynhyrchu swm bach dros ben o £61k, a hynny er gwaethaf pwysau uwch nag erioed ar ofal heb ei amserlennu a gwasanaethau eraill.

Mae’n anochel bod rhai cyrff yn GIG Cymru wedi parhau i wynebu heriau ariannol strwythurol mwy difrifol na’i gilydd a bod arnynt angen cymorth ariannol ychwanegol i fodloni eu targedau diwedd blwyddyn. Cafodd Byrddau Iechyd Hywel Dda a Phowys froceriaeth ad-daladwy o £2.3 miliwn a  £4.2 miliwn yn eu trefn oddi wrth gyrff eraill y GIG. Mae’r symiau hyn eisoes wedi’u had-dalu i’r cyrff a gyfrannodd ar ddechrau 2013-14.

Mae’r aelodau’n ymwybodol fy mod o’r farn y gall y canolbwynt ar fodloni targedau ariannol blynyddol amharu ar ddatblygu a gweithredu cynlluniau tymor canol ar gyfer cynnal a gwella gwasanaethau diogel o safon. Cyhoeddais yn ddiweddar y byddaf yn cyflwyno deddfwriaeth i gynnig mwy o hyblygrwydd i gyrff i reoli eu cyllid dros fwy nag un flwyddyn ariannol. Mae’r ddeddfwriaeth yn cael ei llunio ac ar yr amod y caiff ei chymeradwyo rwyf yn gobeithio rhoi’r newidiadau hyn ar waith ar ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd sef Ebrill 2014.

Yn 2012/13 aethom ati i sicrhau mwy o dryloywder ac i fesur canlyniadau. Trwy wneud hyn bu modd i ni ganolbwyntio o’r newydd ar ddiogelwch y claf ac ansawdd eu gofal, yn enwedig yng ngoleuni Adroddiad Francis. Mae’r broses hon yn parhau yn y flwyddyn bresennol.

Yn 2012-13, mae GIG Cymru wedi mantoli eu cyfrifon heb orfod troi at gronfeydd Llywodraeth Cymru am gymorth ychwanegol. Mae hyn yn dipyn o gamp, ac mae’n dyst i waith caled pob un o gyrff y GIG a’u staff. Hoffwn ddiolch iddynt a’u llongyfarch yn fawr