Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Lansiwyd Cam Dau o Amrywiaeth mewn Democratiaeth ym mis Medi 2020. Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud, er gwaethaf yr heriau a gyflwynir o ganlyniad i flaenoriaethu gwaith i frwydro yn erbyn y pandemig COVID-19. Mae’r cynnydd hwn yn rhan o amcanion ein Cynlluniau Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chydraddoldeb rhwng y Rhywiau.

Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf 2021) yn cynnwys nifer o ddarpariaethau wedi’u hanelu at gynyddu amrywiaeth mewn cynghorau a galluogi mwy o gyfranogiad mewn democratiaeth leol. Maent yn cynnwys:

  • Dyletswydd ar brif gynghorau i annog pobl leol i gyfranogi mewn penderfyniadau, a dyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, wedi’i ddatblygu ar y cyd â chymunedau.
  • Dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ac i’r pwyllgorau safonau gyhoeddi adroddiad blynyddol.
  • Diogelu at y dyfodol y trefniadau presenoldeb o bell mewn cyfarfodydd prif gynghorau a chynghorau cymuned a thref, gan gynnwys y gofyniad i gyhoeddi sut y bydd y trefniadau yn gweithredu a’r gofyniad i ystyried dewis yr aelodau o ran amser y cyfarfodydd a sut y maent yn eu mynychu.
  • Gofyniad i brif gynghorau ddarlledu cyfarfodydd llawn y cyngor yn fyw a sicrhau bod y recordiadau ar gael ar wefannau fel bod pobl yn gallu ymuno â’r trafodion a gweld eu cynghorwyr wrth eu gwaith.
  • Dileu’r rhwystrau ar drefniadau rhannu swyddi yng ngweithrediaeth y prif gynghorau. Mae Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Phowys eisoes wedi cymryd y cyfle i ddefnyddio’r darpariaethau hyn i gynyddu amrywiaeth yn eu Cabinet.

Edrychaf ymlaen at gydweithio â llywodraeth leol er mwyn deall sut y mae’r trefniadau hyn yn gwneud gwahaniaeth a sut y gallwn adeiladu arnyn nhw gyda’n gilydd i gynyddu amrywiaeth a chyfranogiad.

Gweithred allweddol oedd cyflawni ein peilot, y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru. Fe’i gwnaed ar gael i helpu pobl anabl a oedd yn sefyll yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021 ac etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, fe ddatblygom gyfres o glipiau fideo byr gan gydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Un Llais Cymru (OVW) a’r cynghorau. Rhoddodd y clipiau fideo hyn gyfle i bobl ag anableddau i siarad am yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth sefyll mewn etholiad a gweithio fel cynghorydd, sut y gallant helpu eu cymunedau, a manteision y Gronfa.

Derbyniodd y Gronfa, a reolir gan Anabledd Cymru, gyfanswm o 21 o geisiadau gan ymgeiswyr a oedd yn sefyll yn etholiadau'r Senedd, y prif gynghorau a’r cynghorau tref a chymuned. Rwyf wrth fy modd bod chwech o’r unigolion a dderbyniodd cymorth wedi’u hethol yn llwyddiannus, pob un i gynghorau cymuned. Cynhelir gwerthusiad o’r Gronfa yn ddiweddarach eleni er mwyn inni allu gwella ei threfniadau yn y dyfodol.

Roedd Deddf 2021 yn ein galluogi i wneud newidiadau i drefniadau absenoldeb teuluol ar gyfer prif gynghorwyr sydd wedi bod yn eu lle ers 2011. Rydym bellach wedi ymestyn cyfnod absenoldeb mabwysiadwyr o 2 i 26 wythnosau. Mae’r Ddeddf hefyd yn dileu’r gofyniad ar gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau cartref cynghorwyr ar eu gwefannau, ac yn galluogi’r defnydd o gyfeiriad ‘swyddfa’ yn eu lle.

Hoffwn ddiolch i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned a thref am eu gwaith caled a’u hymrwymiad at gyflawni’r uchod mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Dim ond drwy gydweithio y gallwn gael cynrychiolaeth ehangach mewn Siambrau'r cyngor ledled Cymru.

Hoffwn hefyd ddiolch i CLlLC am eu gwaith parhaus yn y maes hwn, gan gynnwys Byddwch yn Gynghorydd, datganiadau cyngor amrywiol a Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus.

Yn ystod weddill y flwyddyn hon, gobeithiaf y gallwn barhau i gydweithio i adeiladu ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni trwy:

  • ymchwilio i sut rydym yn ymestyn y darpariaethau ar gyfer rhannu swydd i rolau anweithredol megis cadeiryddion y pwyllgorau.
  • ystyried pa fesurau pellach y gellir eu rhoi ar waith i gefnogi pobl o’r ystod o grwpiau gwarchodedig i oresgyn rhwystrau i gyfranogi, ac yn bwysig, sut y caiff croestoriadedd ei gydnabod o fewn unrhyw drefniadau yn y dyfodol.
  • ymchwilio i farn pleidleiswyr a rhandeiliaid ynghylch dulliau eraill a allai gwella amrywiaeth ymhlith ein aelodau etholedig lleol ymhellach.

Er mwyn bod yn ffynhonnell o wybodaeth i helpu gyda’r gwaith sy’n parhau, rwyf wedi comisiynu nifer o ddarnau o ymchwil i rôl cynghorwyr, eu taliadau cydnabyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad, llwyth gwaith, ac agweddau ac ymddygiad y cyhoedd. Bydd yn bwysig i driongli canlyniad yr ymchwil hwn a fy mwriad yw cynnal digwyddiad yn ddiweddarach eleni i drafod y themâu sydd wedi dod i’r amlwg a chytuno ar gamau gweithredu i fwrw ymlaen â nhw.  

Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at un canfyddiad sydd wedi dod i’r amlwg sy’n cyd-fynd ag adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol ‘Debate Not Hate: The impact of abuse on local democracy’. Mae hwn yn nodi profiadau ofnadwy cynghorwyr, gan gynnwys camdriniaeth ar-lein a niwed corfforol.

Ni allwn wneud y datganiad hwn heb gydnabod effaith y broblem gynyddol hon ar ein gwaith cyfunol i gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth. Rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu mewn rhai o’r adrannau y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad, megis dileu’r gofynion i gyhoeddi cyfeiriadau cynghorwyr. Ond mae mwy y gallwn ei wneud. Edrychaf ymlaen at gydweithio â’n partneriaid mewn llywodraeth leol i sicrhau bod Cymru yn lle nad yw’n caniatáu i gynghorwyr gael eu sarhau neu eu bygwth.