Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fis Mai diwethaf, cyhoeddwyd y byddai’r rheoliadau i gyflwyno’r set gyntaf o safonau, ac i sicrhau bod y safonau yn benodol gymwys i bersonau, yn cael eu gwneud erbyn diwedd 2014.

Cyhoeddwyd amserlen yn amlinellu’r camau i’w cymryd er mwyn gwneud y rheoliadau. Rydw i’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n parhau ar y trywydd iawn i fodloni’r ymrwymiad hwn a gwneud y rheoliadau erbyn diwedd 2014. 

Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda Chomisiynydd y Gymraeg, ac fel y bennwyd ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, bydd y Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad safonau mewn perthynas ag Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru ddechrau 2014. Fel rhan o’r ymchwiliad, bydd y Comisiynydd yn cysylltu â’r sefydliadau hyn yn uniongyrchol i drafod y broses yn fanylach.

Unwaith y bydd yr ymchwiliad wedi dod i ben, bydd Gweinidogion Cymru yn cael adroddiad annibynnol gan y Comisiynydd.

Mae y Comisiynydd wedi ymgynghori â swyddogion ynghylch y rhaglen dreigl i gynllunio ymchwiliadau dilynol i safonau. Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cyhoeddi manylion y rhaglen honno’n fuan.

Mae’r amserlen isod yn nodi’r prif gamau:

  • Gweinidogion Cymru yn cyflwyno’r safonau drafft i’r Comisiynydd – Rhagfyr 2013
  • Y Comisiynydd yn cynnal ymchwiliad safonau sy’n berthnasol i Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru – Ionawr 2014
  • Y Comisiynydd yn cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru yn crynhoi casgliadau’r ymchwiliad – Mai 2014 
  • Llunio rheoliadau drafft a’r dogfennau cysylltiedig – Medi 2014
  • Dadl a phleidlais ar gymeradwyo’r Rheoliadau yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol – Hydref/Tachwedd 2014 
  • Rhagwelir ar hyn o bryd y daw’r Rheoliadau i rym fis Tachwedd 2014.