Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddwyd amserlen yn amlinellu’r camau i wneud y rheoliadau ar gyfer y set gyntaf o safonau ym mis Hydref 2013.  Yn unol â’r amserlen, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd y rheoliadau yn cael eu paratoi ar ffurf drafft erbyn Tachwedd 2014.

Hoffwn ddiolch i Gomisiynydd y Gymraeg am gyflwyno ei hadroddiadau yn dilyn ei hymchwiliad safonau ar Weinidogion Cymru, Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol. Cyflwynodd 3 adroddiad ar y gwahanol sectorau ynghyd â nodyn cyngor, o dan Adran 4 (2)(j) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Rydym wedi ystyried nodyn cyngor y Comisiynydd yn ofalus ac, o ganlyniad, byddwn yn cynnal ymgynghoriad o bedair wythnos ym mis Tachwedd 2014. Bydd y cam hwn yn effeithio ar yr amserlen a amlinellwyd yn flaenorol ar gyfer cynnal ymchwiliadau safonau cylchoedd 2 a 3. Rydym wedi trafod gyda’r Comisiynydd, ac mae’r amserlen isod yn nodi’r prif gamau er mwyn i’r sefydliadau sy’n destun i ymchwiliadau safonau 1 a 2 y Comisiynydd fod yn glir pryd bydd y rheoliadau i wneud safonau yn cael eu gwneud. Yn dilyn hynny, bydd gan y Comisiynydd yr hawl i roi Hysbysiad Cydymffurfio i’r sefydliadau sy’n nodi pa safonau y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â hwy ac o ba ddyddiad.

Cylch 1

  • Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar reoliadau drafft cylch safonau 1 – Tachwedd 2014
  • Pleidlais ar gymeradwyo rheoliadau cylch safonau 1 yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol – Mawrth  2015
Cylch 2
  • Comisiynydd y Gymraeg i ddechrau ymchwiliad safonau cylch 2 – Tachwedd 2014
  • Comisiynydd y Gymraeg i gyflwyno adroddiad ymchwiliad safonau cylch safonau 2 – Mai 2015
  • Llywodraeth Cymru i ddrafftio rheoliadau cylch safonau 2 – erbyn yr hydref 2015
  • Cychwyn y broses o gyflwyno rheoliadau cylch safonau 2 – diwedd 2015.