Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu nifer o achosion lle anfonwyd gwybodaeth faleisus i ysgolion a oedd yn ffeithiol anghywir ar draws y DU, gan gynnwys ysgolion yng Nghymru. Mae’r achosion hyn bellach yn destun ymchwiliad gan yr heddlu, sy’n parhau. Effeithiwyd ar nifer o ysgolion yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol wedi paratoi cyngor ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysg eraill yn y DU, ac anfonwyd y cyngor hwnnw i holl ysgolion Cymru ar 3 Chwefror 2016. Yn sgil achosion a gododd yr wythnos ddiwethaf mewn nifer bach o ysgolion yng Nghymru, aethom ati i ailddosbarthu’r canllawiau ar 26 Mai 2016 er mwyn eu hatgoffa’r ysgolion o’r angen i adolygu eu cynlluniau diogelwch i gadarnhau bod eu trefniadau yn parhau’n briodol, a’u bod wedi eu profi er mwyn sicrhau bod y staff a’r myfyrwyr yn teimlo’n barod ac yn hyderus.

Mae diogelwch disgyblion a staff yn hollbwysig, a dyna pam rwyf wedi cytuno i weithio gyda’r heddlu i helpu ysgolion i adolygu eu cynlluniau diogelwch.

Mae’r digwyddiadau hyn yn ffiaidd ac yn warthus, a gallent gael effaith negyddol ar ddysgwyr sy’n sefyll arholiadau. Mae hon eisoes yn adeg lawn straen i bobl ifanc, ac mae’r digwyddiadau hyn yn peri pryder ychwanegol diangen ac annheg i ddysgwyr, rhieni, ac athrawon.

Mae’r holl gyrff dyfarnu cymwysterau wedi rhoi ar waith fesurau argyfwng cadarn er mwyn ymdrin â digwyddiadau o’r math hwn er mwyn sicrhau nad yw dysgwyr o dan anfantais yn sgil aflonyddu ar eu trefniadau. Rwyf wedi gofyn i Gymwysterau Cymru, sef y rheoleiddiwr annibynnol, roi gwybod imi am unrhyw ddatblygiadau. Mae wedi rhoi sicrwydd y bydd yn gweithio gyda’r rheoleiddwyr eraill, y Cyd-Gyngor Cymwysterau, a’r cyrff dyfarnu i sicrhau cysondeb a thegwch i’r holl ddysgwyr y mae’r digwyddiadau hyn yn effeithio arnynt.