Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf ddarparu'r datganiad hwn mewn ymateb i'r cais gan fy nghydweithiwr Lesley Griffiths, AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, fel ymateb i'r cwestiwn a godwyd gan Christine Chapman, AC, ar 10 Mehefin yn y Cyfarfod Llawn ar annog ailgylchu yng Nghymru ac ailddefnyddio ac ailgylchu cyfarpar TGCh.

Rwy’n falch o roi gwybod i chi bod Cymru'n parhau i arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU. Mae'r ffigurau dros dro diweddaraf yn adrodd bod cyfuniad o’r gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff a gesglir gan awdurdodau lleol wedi cynyddu o 52 y cant i 54 y cant ar gyfer y deuddeg mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2013.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid fel WRAP, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu ledled Cymru.

Cymru yw'r weinyddiaeth gyntaf yn y DU i ymrwymo i ailgylchu 70 y cant o'i gwastraff erbyn 2025 a bod yn genedl ddiwastraff (ailgylchu 100 y cant) erbyn 2050. Cymru yw'r unig weinyddiaeth yn y DU i wneud y targedau ailgylchu’n statudol ar gyfer awdurdodau lleol.

Cyflwynwyd Targedau Adfer Awdurdodau Lleol yn 2012-13 gyda'r targed cyntaf o 52 y cant ar gyfer cyfuniad o ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio. Rwy’n falch o ddweud bod Cymru wedi cyrraedd y targed ac yn adrodd cyfradd ailgylchu gyfun o 52.3 y cant.

Methodd nifer o awdurdodau lleol y targed o drwch blewyn, ond gyda chefnogaeth Rhaglen Newid Gydweithredol y Llywodraeth Cymru, mae’r awdurdodau lleol hyn yn gweithio gyda’r Llywodraeth a Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau i gynyddu eu cyfraddau ailgylchu yn barod i gyrraedd targedau yn y dyfodol. Y flwyddyn darged nesaf yw 2015-16 gyda tharged o 58 y cant ar gyfer cyfuniad o ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio.

Hoffwn hefyd ymateb ynglŷn ag ailddefnyddio ac ailgylchu gwastraff electronig a gwastraff trydanol (WEEE). Mae'r Gyfarwyddeb WEEE yn gosod rhwymedigaethau ar y cynhyrchwyr a defnyddwyr Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff ac yn ei gwneud yn ofynnol i drefniadau gael eu gwneud ar gyfer casglu a thrin y gwastraff hwn ar wahân mewn cyfleusterau awdurdodedig.

Mae'r Gyfarwyddeb WEEE yn cael ei throi yn ddeddfwriaeth yn y DU gan Reoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff sy'n deillio o’r Deyrnas Unedig gael ei gasglu mewn Cyfleusterau Casglu Dynodedig ac yna eu cludo i Gyfleuster Trin Awdurdodedig Cymeradwy neu i allforiwr cymeradwy i'w trin, eu hadfer neu eu hailgylchu.

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi Nodiadau Cyfarwyddyd y Llywodraeth ar Reoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2013. Mae'r Canllawiau yn nodi ei bod yn ofynnol rhoi blaenoriaeth, lle y bo'n briodol, i ailddefnyddio cyfarpar cyfan ac yn awgrymu y gall cynhyrchwyr a chynlluniau cydymffurfio sefydlu trefniadau ar gyfer casglu WEEE gan elusennau neu sefydliadau ailddefnyddio.

Mae yna nifer o sefydliadau ailddefnyddio yng Nghymru a fydd yn trefnu i gasglu cyfarpar TGCh a’i adnewyddu ar gyfer ei ailddefnyddio yn y gymuned yn unol â'r safon newydd ar gyfer ailddefnyddio cyfarfpar trydanol ac electronig gwastraff (PAS 141). Rwyf hefyd yn ymwybodol bod meddalwedd ar gael sy'n helpu mentrau i gydymffurfio â safonau'r diwydiant megis ISO27001 ac ISO15408 ar gyfer gwaredu data yn ddiogel. Mae hyn hefyd yn darparu llwybr archwilio fel y gall sefydliadau ddarparu tystiolaeth eu bod wedi dileu data.

Cyfrifoldeb y cwmnïau sy’n gwaredu cyfarpar trydanol gwastraff yw cadw at ofynion y rheoliadau a Chyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheoleiddiwr sy’n gyfrifol am orfodi'r rheoliadau.

Mae arweiniad i gefnogi’r Rheoliadau ar gael ar lefel y DU gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau drwy God Ymarfer mewn perthynas â chasglu gwastraff electronig a thrydanol o gyfleusterau casglu dynodedig. Mae WRAP hefyd wedi cyhoeddi canllawiau arfer da mewn perthynas â chyfleusterau casglu dynodedig ar gyfer casglu a thrin Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff. Cyhoeddir y canllawiau ar-lein ac maent ar gael i bob cwmni sy’n trefnu i gasglu a thrin cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff.

Yn olaf, hoffwn sôn am gyhoeddi Rhaglen Atal Gwastraff Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd sy'n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar fesurau atal gwastraff i bob sector rheoli gwastraff yng Nghymru. Un o amcanion y Rhaglen yw creu buddsoddiad ar gyfer rhwydwaith ailddefnyddio yng Nghymru er mwyn creu cyfleoedd sylweddol ar gyfer twf gwyrdd trwy gamau sy’n darparu economi gylchol ar gyfer adnoddau yng Nghymru. Mae gan y diwydiannau gweithgynhyrchu yng Nghymru y cyfle i gynyddu eu gwytnwch o ran y cyflenwad o ddeunyddiau crai sy’n hanfodol i'w busnes drwy ddod yn fwy effeithlon o ran adnoddau a defnyddio deunyddiau crai eilaidd sy'n deillio o ailgylchu gwastraff. Mae cyfleoedd sylweddol ar gyfer swyddi newydd yn yr economi gylchol newydd hon. Mae gan  sector ailddefnyddio’r mentrau cymdeithasol y potensial i dyfu, nid yn unig o ran cyfarpar trydanol gwastraff, ond o ran deunyddiau eraill sydd â gwerth megis dodrefn, nwyddau gwyn neu decstilau. Trwy gynyddu graddau ailddefnyddio, gellir hefyd gefnogi'r rheini sydd ar incwm isel yng Nghymru, o ran creu swyddi newydd ychwanegol a chynyddu sgiliau mewn economi werdd, a thrwy ddarparu eitemau ar gost isel i’r cartref a bwyd i'r rhai sydd mewn tlodi.