Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n falch o ddatgan fy mod yn cyhoeddi archwiliad annibynnol o’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru heddiw.

Mae Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair: Cynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (2013) yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfleoedd i blant yng Nghymru.  Mae’r cynllun hwn yn ategu’r ymrwymiad i’r Cyfnod Sylfaen a bod cael pethau’n iawn yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol i lwyddiannau plentyn.  

Y Cyfnod Sylfaen yw’n prif bolisi addysg ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Mae’n seiliedig ar yr egwyddor y dylai plentyn sy’n cychwyn ar ei daith i addysg ffurfiol gael sylfaen gadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol trwy gwricwlwm sy’n berthnasol ac yn briodol.

Mae tystiolaeth gynnar o werthusiad y Cyfnod Sylfaen yn adroddiadau thematig Estyn yn nodi nad oes amheuaeth bod y Cyfnod Sylfaen yn werthfawr tu hwnt i’n dysgwyr ieuengaf ac yn ffordd effeithiol o’u haddysgu, ond bod problemau’n codi o ran cysondeb addysgu’r Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion yng Nghymru.

Oherwydd hyn, cyhoeddais ym mis Gorffennaf 2013, y byddai’r Athro Iram Siraj, o  Sefydliad Addysg Prifysgol Llundain yn gwneud archwiliad tymor byr annibynnol  o’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.  Roedd yr archwiliad hwn a gyhoeddir heddiw yn canolbwyntio ar roi’r Cyfnod Sylfaen ar waith, ansawdd y Cyfnod Sylfaen  a lleihau amrywiaethau.  

Mae adroddiad yr Athro Siraj yn nodi bod y Cyfnod Sylfaen yn dal yn gynllun sydd yn ei flynyddoedd cynnar, a bod newidiadau ym maes addysg yn mynd i gymryd amser i gydio ac na ellir gweld gwelliant yn syth. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn cael ei addysgu’n dda, ac mae’r potensial yno i gael effaith gadarnhaol eithriadol ar ein dysgwyr ieuengaf. Er hynny, nid oes lle i laesu dwylo. Rhaid i’r anghysondebau addysgu ddod i ben. Rwy’n benderfynol y bydd pob dysgwr yng Nghymru’n gallu cael at gwricwlwm Cyfnod Sylfaen o’r ansawdd uchaf ac yn cael budd o’r profiad cadarnhaol o’r dechrau a gawsant mewn addysg.

Yn benodol, rwy’n croesawu’r argymhelliad  gan yr Athro Siraj  sy’n sôn am gynllun strategol deng mlynedd i roi cymorth i roi’r Cyfnod Sylfaen ar waith ledled Cymru a’i gryfhau.  Yn ogystal â hynny, roedd ei safbwyntiau ar sut i gynyddu sgiliau’r gweithlu i sicrhau bod dysgwr yn cael yr addysg orau bosib yn y blynyddoedd cynnar yn rhai craff.   

Byddaf yn ymateb i’r archwiliad tymor  byr hwn o’r Cyfnod Sylfaen ochr yn ochr â chasgliadau’r Gwerthusiad o’r Cyfnod Sylfaen ac adolygiadau eraill sy’n dal i gael eu cynnal. Gyda’i gilydd, bydd canfyddiadau o’r archwiliad tymor byr, y gwerthusiad a’r adolygiadau yn rhoi trysorfa dystiolaeth i ni ddatblygu polisi yn y dyfodol a chryfhau’r Cyfnod Sylfaen wrth symud ymlaen. Fy uchelgais yw y bydd y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn esiampl ryngwladol ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar.