Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mabwysiadwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod (CEDAW) yn 1979 gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ac mae'n cael ei ddisgrifio fel deddf ryngwladol ar hawliau menywod. Drwy dderbyn y Confensiwn, mae Gwladwriaethau yn ymrwymo i gyflawni cyfres o fesurau i ddod â phob math o wahaniaethu yn erbyn menywod i ben, gan gynnwys:

  • ymgorffori’r egwyddor bod dynion a menywod yn gydradd yn eu system gyfreithiol gan ddiddymu pob cyfraith wahaniaethol a mabwysiadu cyfreithiau priodol yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn menywod;
  • sefydlu tribiwnlysoedd a sefydliadau cyhoeddus eraill i sicrhau bod menywod yn cael eu hamddiffyn yn effeithiol yn erbyn gwahaniaethu; a
  • sicrhau bod pob gweithred o wahaniaethu yn erbyn menywod gan bersonau, sefydliadau neu fusnesau’n cael eu dileu.

Ar 26 Chwefror 2019, roedd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, sydd wedi llofnodi'r Confensiwn, yn rhan o archwiliad o’u cydymffurfedd â CEDAW.

Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol yn yr archwiliad undydd yn y Palais des Nations yn Genefa, a hynny fel rhan o'r ddirprwyaeth o'r Deyrnas Unedig, ar y cyd â swyddogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a swyddogion o'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill. Roedd y ffaith bod ein swyddogion ni yno yn sicrhau bod Cymru a materion o Gymru yn cael llais yn y broses archwilio. Roedd hyn yn gyfle i dynnu sylw at waith Llywodraeth Cymru o ran hybu ac amddiffyn hawliau merched a menywod, ac yn rhoi cyfle hefyd i nodi ffyrdd o ychwanegu at y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud.

Ar 11 Mawrth 2019, cyhoeddwyd Arsylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod. Mae'r Sylwadau hynny’n cynnwys rhestr o argymhellion i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar gyfer eu rhoi ar waith dros y pedair blynedd nesaf:

https://tbinternet.ohchr.org/_layouts/treatybodyexternal/Download.aspx?symbolno=CEDAW%2fC%2fGBR%2fCO%2f8&Lang=en

Rydym yn croesawu'r Arsylwadau Terfynol, ond mae'n rhaid i ni nawr ystyried sut i fwrw ymlaen â rhoi'r argymhellion hyn ar waith yn y dyfodol, yn enwedig felly'r adolygiad parhaus o gydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Bydd fy swyddogion yn cyfarfod ag aelodau o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru  er mwyn trafod yr argymhellion hyn, ac unrhyw faterion eraill a gododd y sefydliadau hyn wrth drafod â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig.

Rwy'n gwerthfawrogi cyfraniad gwerthfawr y trydydd sector cyn ac yn ystod yr archwiliad o Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Roedd eu gwaith i gasglu safbwyntiau a phrofiadau menywod drwy Gymru, a throsglwyddo’r wybodaeth honno i'r Cenhedloedd Unedig drwy adroddiadau ysgrifenedig a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, wedi sicrhau bod lleisiau o bob cefndir wedi cael eu clywed yn ystod y broses. Gwnaeth staff o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol deithio i Genefa hefyd, gan ychwanegu at y trafodaethau gyda Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig cyn yr archwiliad.

Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn gofyn i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon gyflwyno adroddiad ym mis Mawrth 2023 yn amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gweithredu'r argymhellion hyn, yn ogystal â chamau gweithredu eraill sy'n ymwneud â datblygu hawliau menywod a merched ers yr archwiliad yn 2019.