Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni ein hymrwymiad i gyflwyno rhaglen o archwiliadau iechyd i bobl dros 50 oed. Mae'n nodi fy mhenderfyniad diweddar ynghylch y dull gweithredu cyffredinol ar gyfer y rhaglen a'r prif feysydd gwaith a gaiff eu datblygu dros y flwyddyn i ddod.

Mae'r rhaglen archwiliadau iechyd yn cyd-fynd â'r cyfeiriad strategol a nodais yn Law yn Llaw at Iechyd. Yn benodol, nod y rhaglen yw cynorthwyo a grymuso pobl dros 50 oed i gael mwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles eu hunain. Bydd yn cefnogi'r cysyniad pwysig o 'heneiddio'n dda' ac yn helpu i wella pa mor hawdd y mae gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel ar gael i bobl.

Er bod gwariant ar y GIG yn bwysig, dim ond rhan o'r ateb o ran sicrhau iechyd da yw gwasanaethau gofal o ansawdd uchel pan fydd pobl yn sâl. Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal iechyd gwael y gellir ei osgoi rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae maint yr her sy'n ein hwynebu yn glir iawn.  Er enghraifft, gwyddom mai dim ond 6% o oedolion yng Nghymru sy'n dilyn cyngor mewn perthynas â'n pedair blaenoriaeth o ran ffordd o fyw ar hyn o bryd:- cadw at ddeiet synhwyrol, peidio ag ysmygu, yfed yn synhwyrol a gwneud ymarfer corff rheolaidd. Mae'r rhain yn gyfleoedd a gollir i leihau'r risg o gael cyflyrau cronig fel pwysedd gwaed uchel, diabetes, clefyd y galon, clefyd yr afu a chanser, ac mae pob un ohonynt yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl a bywydau eu teuluoedd a'u ffrindiau, yn ogystal â'n gwasanaethau iechyd.  

O ganlyniad i'r gwaith a wnaed gennym dros y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi penderfynu y bydd ein rhaglen archwiliadau iechyd yn mabwysiadu dull gweithredu arloesol a chyfannol. Bydd hyn yn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a gynigir drwy ddatblygu technoleg yn ogystal â rhoi cymorth lleol yn y gymuned.  Bydd yn darparu porth modern i wasanaethau atal a gwybodaeth am iechyd yng Nghymru, a all helpu unigolion dros 50 oed i wneud dewisiadau i gefnogi iechyd a lles gwell.

Arweinir y gwaith o ddatblygu'r rhaglen archwiliadau iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd yn datblygu ac yn cydgysylltu'r meysydd gwaith gwahanol, yn dewis cynnwys ac yn sicrhau ei ansawdd, ac yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Rwy'n rhagweld y caiff y rhaglen ei chyflwyno dros gyfnod o dair blynedd yn dechrau ar ddiwedd 2013.

Rwy'n awyddus i sicrhau bod gwasanaethau a ddatblygir gennym yng Nghymru yn defnyddio meddylfryd y 21ain ganrif ac yn addas ar gyfer y ffyrdd mae pobl yn byw eu bywydau bob dydd. Mae'r rhaglen archwiliadau iechyd yn gyfle ardderchog i wneud hyn. Felly, rwyf wedi penderfynu y caiff ei darparu'n bennaf drwy wasanaeth ar-lein, a fydd yn cynnig cyngor o ansawdd uchel i bobl ar amrywiaeth o faterion iechyd a chymdeithasol y gellir eu teilwra'n bersonol i'w hamgylchiadau eu hunain, yn ogystal â gwella mynediad i'r gwasanaethau atal cenedlaethol a lleol mwyaf effeithiol. Datblygir y gwasanaeth hwn fel rhan annatod o wasanaethau gwybodaeth y GIG yng Nghymru i sicrhau ei fod yn cysylltu'n llawn â rhannau eraill o'r system.

Mae pobl yn defnyddio dulliau ar-lein yn gynyddol i fanteisio ar wasanaethau ar amser a lle sydd fwyaf addas iddynt hwy. Mae llawer o bobl yn rheoli rhannau o'u bywydau fel hyn heb feddwl ddwywaith bellach, o ddefnyddio gwasanaethau bancio i brynu nwyddau dros y rhyngrwyd. Gellir defnyddio'r un dull i'n helpu i reoli ein hiechyd. Gall technoleg roi mynediad cyflym a hawdd i'r cyngor diweddaraf dibynadwy ar broblemau iechyd, ymyriadau a gwasanaethau. Bydd gwasanaeth archwiliadau iechyd newydd ar-lein yn rhoi gwybodaeth i bobl am faterion iechyd a gofalu am eu hiechyd a lles eu hunain, am wasanaethau a allai eu helpu mewn perthynas â hyn, a'u cyfeirio, lle y bo angen, at y cymorth proffesiynol cywir gan ddefnyddio proses symlach.

Wrth ddatblygu'r dull cyffredinol hwn, mae fy swyddogion wedi ystyried nifer o ffactorau, yn cynnwys modelau a ddefnyddir mewn llefydd eraill, safbwyntiau rhanddeiliaid a thystiolaeth o waith ymchwil. Mae'r olaf wedi codi cwestiynau am werth gwirioneddol 'archwiliadau iechyd' cyffredinol sy'n seiliedig ar fodel meddygol yn unig, ac wedi ein helpu i gynllunio dull gweithredu a fydd ein galluogi i roi cynnig ar rywbeth newydd yng Nghymru. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i gael gwybodaeth a chyngor yn ogystal â manteisio ar ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth fel gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.

Wrth gwrs, rwyf yn ymwybodol na all pawb fanteisio ar y gwasanaethau ar-lein. Er y bydd cyfran gynyddol o bobl dros 50 oed yn eu defnyddio, ni fydd pob un yn gwneud hynny.  Felly, rwyf wedi penderfynu cyflwyno ffyrdd amgen o fanteisio ar yr archwiliad iechyd, gyda chymorth ychwanegol mewn lleoliadau cymunedol. Bydd fy swyddogion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu'r rhain, gan weithio'n agos gyda rhwydweithiau a phartneriaid gwahanol i sicrhau'r cyfranogiad uchaf o bob rhan o'n cymunedau. Bydd y gwaith hwn yn parhau dros weddill y cam paratoi er mwyn archwilio'r ffordd orau o ddiwallu anghenion grwpiau gwahanol, wedi'i lywio gan randdeiliaid a'r darpar ddefnyddwyr eu hunain.  Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am y ffurfiau hyn o gymorth wrth i'r rhaglen ddatblygu.

Yn ogystal â datblygu'r trefniadau ar-lein newydd a'r cymorth cymunedol, byddaf hefyd yn rhoi camau gweithredu ar waith i godi ymwybyddiaeth am y rhaglen hon cyn iddi gael ei chyflwyno ac i annog pobl i gymryd rhan ynddi. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael budd o'r rhaglen. Caiff cynllun cyfathrebu ei roi ar waith fel bod pobl yn gwybod beth mae'r gwasanaeth yn ei gynnig a sut i'w ddefnyddio.

Mae'n hollbwysig i ni allu profi'r rhaglen hon yn effeithiol a mesur ei heffaith dros amser, yn enwedig gan ein bod yn mabwysiadu dull arloesol. Caiff camau gwerthuso eu cynnwys yn y rhaglen o gam cynnar. Dros y tymor hwy byddaf yn gallu ystyried unrhyw ddatblygiadau pellach posibl yn seiliedig ar ganfyddiadau gwerthuso cadarn.

Hoffwn bwysleisio na fydd y broses o ddatblygu'r rhaglen hon yn effeithio ar allu pobl i ddefnyddio gwasanaethau eraill mewn unrhyw ffordd. Bydd y tîm Meddygon Teulu yn parhau i gynnig arweiniad fel y brif ffynhonnell cyngor a rheolaeth ar gyfer problemau neu bryderon iechyd a nodwyd, yn cynnwys archwiliadau rheolaidd ar gyfer cyflyrau cronig. Bydd fferyllwyr cymunedol yn cynnig ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus rheolaidd i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd allweddol. Bwriedir i'r rhaglen archwiliadau iechyd atgyfnerthu darpariaeth bresennol hon ac i'w hategu yn hytrach na'i disodli neu ei dyblygu. Bydd gan weithwyr iechyd proffesiynol a phartneriaid eraill rôl bwysig i'w chwarae o ran codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r rhaglen ac annog pobl i'w defnyddio. Y tu hwnt i'r brif raglen archwiliadau iechyd, mae gwaith pwysig arall hefyd yn cael ei ddatblygu i barhau i wella gwasanaethau craidd. Byddwn yn archwilio'r ffordd orau o sicrhau cysylltiad di-dor rhwng gwasanaethau gofal ac archwiliadau iechyd lle y bo'n briodol.

Rwyf wedi neilltuo tua £740k yn ystod blwyddyn ariannol 2013-14 i gefnogi'r broses o ddatblygu'r rhaglen hon. Bydd hyn yn cefnogi gwaith mewn nifer o feysydd, yn cynnwys datblygu'r gwasanaeth ar-lein a'r gwaith paratoi ar gyfer y cymorth cymunedol, yn ogystal â gwaith cynnar i brofi, gwerthuso a hyrwyddo.

Edrychaf ymlaen at weld y rhaglen gyffrous hon yn parhau i ddatblygu ac rwyf yn hyderus y bydd yn cynnig cyfleoedd newydd pwysig i bobl dros 50 oed yng Nghymru i gael mwy o reolaeth dros eu hiechyd a'u lles eu hunain.

Byddaf yn sicrhau bod Aelodau'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd dros y flwyddyn i ddod.