Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n ysgrifennu i'ch diweddaru ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ar y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid) (Cymru) 2020 drafft ("y Rheoliadau Arddangosfeydd Anifeiliaid") a'r canllawiau cysylltiedig. Mae Adroddiad Dadansoddi o'r themâu allweddol a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi a gellir ei weld yma:https://llyw.cymru/arddangosfeydd-anifeiliaid

Rwy'n falch fod y cynllun trwyddedu, a fyddai'n caniatáu i wiriadau gael eu gwneud ar Arddangosfeydd Anifeiliaid trwyddedig i sicrhau bod safonau lles da yn cael eu bodloni yn eu cartrefi, wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod eu harddangos, yn gyffredinol yn cael ei gefnogi gan unigolion, sefydliadau lles anifeiliaid a gweithredwyr Arddangosfeydd Anifeiliaid fel ei gilydd.

Roeddwn yn arbennig o falch o ddarllen y sylwadau cadarnhaol ar y gofyniad i Arddangosfeydd Anifeiliaid trwyddedig i hyrwyddo addysg gyhoeddus ac ymwybyddiaeth o'r rhywogaethau a gedwir. Roedd y manteision a nodwyd yn mynd y tu hwnt i’n hamcan uniongyrchol o annog prynu a bod yn berchen ar anifeiliaid mewn modd cyfrifol, gan gynnwys effeithiau cadarnhaol ar ein diwylliant a'n diwydiant twristiaeth, a chadwraeth fflora a ffawna, yn y DU ac yn fyd-eang.

Rwyf wedi nodi'r adborth o ran yr angen am fwy o eglurder ar ddiffiniadau penodol yn y ddeddfwriaeth a'r canllawiau, a bydd y pwyntiau hyn yn cael eu hystyried ymhellach. Mae Arddangosfeydd Anifeiliaid yn amrywio'n fawr o ran maint, natur a mathau o rywogaethau a gedwir. Felly er ei bod yn bwysig bod gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i asesu pob Arddangosfa Anifeiliaid yn ôl gofynion y ddeddfwriaeth ar sail unigol, byddwn yn edrych eto, gymaint ag y bo'n bosibl, ar sut y mae modd cyflawni dull gweithredu safonol.

Rwy'n ymwybodol fod llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi cael gohebiaeth yn ystod y cyfnod ymgynghori o ganlyniad i ymgyrch a wnaed gan The Kennel Club yn awgrymu y byddai gweithgareddau hamdden megis sioeau cŵn yn destun trwyddedu.

Gwnaed dadansoddiad o'r ymatebion a ddaeth i law, gan gynnwys y rhai a oedd yn cefnogi cynnwys y gweithgaredd hwn naill ai o fewn y cynllun trwyddedu hwn neu drwy system gofrestru ar wahân. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i'r amddiffyniad a ddarperir ar hyn o bryd i rai gweithgareddau hamdden o dan Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925, sef y ddeddfwriaeth bresennol (er enghraifft, cŵn a hyfforddwyd i berfformio i gerddoriaeth ('cŵn sy'n dawnsio')) ac a yw'n briodol i gynnal yr amddiffyniad hwnnw neu ei lacio o dan y Rheoliadau drafft.  

Gallaf gadarnhau na fwriadwyd i sioeau cŵn neu weithgareddau tebyg gael eu trwyddedu o dan Reoliadau Arddangosfeydd Anifeiliaid – ac mae hyn yn parhau i fod yn wir. Mae swyddogion yn ystyried pa ddiwygiadau a allai fod angen i naill ai'r Rheoliadau neu'r Canllawiau er mwyn cyfleu'r pwynt hwn yn well, er mwyn osgoi amwysedd neu ganlyniadau anfwriadol.

Roedd diddordeb gennyf yn y dystiolaeth a ddaeth i law gan lawer o ymatebwyr ynghylch materion lles posibl o ran gweithgareddau na chawsant eu hystyried ar gyfer eu trwyddedu yn y Rheoliadau drafft, sef rasio milgwn a defnyddio anifeiliaid at ddibenion therapi pobl (er enghraifft mynd â chŵn i gartrefi gofal). Er na dderbyniwyd unrhyw ymatebion i'r ymgynghoriad gan sefydliadau cynrychioliadol y naill weithgaredd na'r llall, bydd fy swyddogion yn sicrhau bod ganddynt ddigon o gyfle i gyfrannu at y broses ddatblygu polisi er mwyn caniatáu gwneud penderfyniad yn hollol seiliedig ar wybodaeth ynghylch a ddylent fod yn ddarostyngedig i drwyddedu neu beidio wrth fynd rhagddo.

Rwy'n rhannu'r pryder a fynegwyd gan lawer o ymatebwyr o ran yr effaith ariannol sydd o bosibl yn sylweddol mewn achosion pan allai fod angen i Arddangosfeydd Anifeiliaid symudol sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr gael eu trwyddedu o dan y ddau gynllun trwyddedu. Gwnaeth fy swyddogion godi'r mater hwn gyda chydweithwyr yn DEFRA yn gynharach eleni ac rwy'n falch fod ymrwymiad ysgrifenedig bellach wedi dod i law i gydweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru wrth ystyried y mater hwn ymhellach.

Mae'n glir bod angen gwaith pellach ar y Rheoliadau drafft a'r Canllawiau ar Arddangosfeydd Anifeiliaid i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcan ein polisi a’u bod yn addas iawn ar gyfer arferion gweithio arddangoswyr Arddangosfeydd Anifeiliaid. Rwy'n awyddus hefyd i sicrhau canlyniad pendant o ran y trafodaethau ar gydnabyddiaeth gilyddol o drwyddedau rhwng Cymru a Lloegr o leiaf, ac mae trafodaethau pellach wedi'u cynllunio rhwng Llywodraethau gyda'r nod o gyflawni'r amcan hwn.  

Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'm swyddogion i barhau â’u gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth i'r gwaith drafftio fynd rhagddo. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y rhai a allai gael eu heffeithio gan y gweithgareddau ychwanegol sy’n cael eu hystyried i'w cynnwys yn y cynllun trwyddedu fel y nodir uchod, yn cael cyfle i wneud sylwadau ar y cynigion.  Mae hefyd yn caniatáu i sefydliadau sydd heb fynegi diddordeb eisoes mewn bod yn rhan o'r broses datblygu polisi barhaus, gofrestru gyda'r tîm Lles Anifeiliaid a gellir cysylltu â nhw (os oes angen) er mwyn cynorthwyo gyda chasglu data i lywio diwygiadau drafftio penodol neu waith ymchwil i'r effeithiau posibl: WAHFG@gov.wales. Rwy'n eich annog i roi gwybod i unrhyw randdeiliaid rydych chi'n teimlo y gellir effeithio arnynt i gysylltu â'm swyddogion drwy'r cyfeiriad e-bost ffurfiol hwn.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.