Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma’r newyddion diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad ar gamau nesaf Llywodraeth Cymru o ran ‘Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid’, gan gynnwys syrcasau. 

Yn fy natganiad ar 15 Gorffennaf 2016, rhoddais gadarnhad fyd mod wedi gofyn i swyddogion ddarparu opsiynau manwl ar y camau nesaf ynghylch defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, yn ogystal ag ystysriaethau eraill ar ddefnyddio pob anifail mewn ‘Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid’.  Wedi derbyn briff trylwyr ar hyn, yr hyn sy’n hollol glir i mi yw nad yw ‘Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid’ yn destun unrhyw drefn drwyddedu lym neu archwiliadau rheolaidd, ac mae’n glir felly bod lles yr anifeiliaid sy’n cael eu defnyddio gan yr unedau hyn yn destun pryder yr wyf am fynd i’r afael ag ef.  

O ystyried cymhlethdod y mater, rwyf felly wedi gofyn am y meysydd gwaith canlynol i ddechrau ar unwaith, sy’n rhyng-ddibynnol ond hefyd yn ddigon hyblyg i allu sicrhau rheoli a gorfodi yn y dyfodol.  

Bydd fy swyddogion yn gweithio ar ddatblygu cynllun newydd megis trwyddedu neu gofrestru, ar gyfer ‘Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid’ gan gynnwys syrcasau, sy’n arddangos anifeiliaid domestig ac ecsotig yng Nghymru.  Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ac yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn ar ddechrau’r flwyddyn nesaf.  

Bu imi hefyd gyfarfod ag Arglwydd Gardiner o Kimble yn ddiweddar, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU dros Faterion Gwledig a Bioddiogelwch, i drafod ‘Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid’, anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac i ddirymu yr hen ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliadau) 1925 yng Nghymru. Mae ‘Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid’ ledled y DU yn teithio’n rheolaidd ar draws ffiniau.  Felly cafwyd cytundeb y byddai Cymru a Lloegr, cyn belled â phosibl, yn sicrhau dull strategol ar y cyd o gyflwyno unrhyw gynllun newydd i sicrhau bod cyn lleied â phosib o broblemau trawsffiniol.  

Dylid nodi hefyd, er y bydd syrcasau gydag anifeiliaid yn cael eu cynnwys yn y cynllun trwyddedu neu gofrestru arfaethedig, rwy’n ymwybodol bod gan y cyhoedd bryderon moesol ynghylch defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a bydd cwestiwn penodol am hyn yn cael ei gynnwys yn y ddogfen ymgynghori. 

Nid wyf wedi diystyru’r posibilrwydd o wahardd anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio mewn syrcasau yn y dyfodol yng Nghymru, ac rwyf wedi cadw posibilrwydd o barhau i gynnwys hyn mewn unrhyw Fil gan Lywodraeth y DU sy’n cael ei ddatblygu ar y mater hwn.  Fodd bynnag, ni allwn aros am byth i’r posibilrwydd hwnnw godi.  
Mae lles anifeiliaid  yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae pryderon a godwyd gan randdeiliaid a’r cyhoedd yn cael eu hystyried o ddifrif, boed yr anifeiliaid hynny yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes neu eu defnyddio at ddibenion masnachol neu ddibenion eraill.  Mae hyn yn unol ag ethos ‘Perchnogaeth Gyfrifol’ Llywodraeth Cymru, fel a bennir yng Nghynllun Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.  Mae cydweithio i sicrhau canlyniadau cynaliadwy hefyd yn ofyniad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.