Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Gorffennaf, cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei lansio ar gyflwyno cynllun trwyddedu neu gofrestru Arddangosfeydd Teithiol i Anifeiliaid yng Nghymru.

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn sgil yr ymatebion a ddaeth i law, mae’n amlwg ei fod yn flaenoriaeth i bobl Cymru hefyd.

Mae pryderon wedi’u mynegi nad yw anghenion lles rhai anifeiliaid sy’n cael eu harddangos, gan gynnwys anifeiliaid mewn syrcasau, yn gallu cael eu diwallu mewn arddangosfa deithiol. Ceir amrywiaeth o arddangosfeydd teithiol ac nid oes trefn drwyddedu safonol na gofyn i gynnal archwiliad rheolaidd. Mae Arddangosfeydd Teithiol i Anifeiliaid yn cynnwys arddangosfeydd heboga teithiol, anifeiliaid anwes egsotig sy’n cael eu harddangos mewn ysgolion at ddibenion addysgol, a cheirw mewn digwyddiadau adeg y Nadolig. Wrth gwrs, maent hefyd yn cynnwys anifeiliaid sy'n perfformio mewn syrcasau.  

Ceisiodd yr ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 8 Hydref, farn am gyflwyno cynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid yng Nghymru. Gofynnwyd hefyd am farn ynghylch gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.

Daeth bron 1,000 o ymatebion i law. Roedd 70 ohonynt yn atebion cyflawn ond roedd y gweddill wedi ateb y cwestiwn ynglŷn â gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn unig. Mae hyn y dangos bod teimladau cryf gan y cyhoedd mewn perthynas â’r mater hwn. Mae dogfen sy’n crynhoi’r ymatebion wedi’i chyhoeddi heddiw:  https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/arddangosfeydd-teithiol-o-anifeiliaid

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno y dylai fod cynllun trwyddedu neu gofrestru  arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr o blaid trwyddedu yn hytrach na chofrestru. Roedd yr ymatebwyr yn deall fod cryn amrywiaeth o ran natur arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid. Roedd rhai’n credu bod y diffiniad a roddwyd yn yr ymgynghoriad yn rhy eang ac y dylai arddangosfeydd teithiol penodol gael eu heithrio o gynllun trwyddedu neu gofrestru, ar sail eu diben.

Ar ôl ystyried yr ymatebion a’r galw am newid y system bresennol, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion lunio cynllun trwyddedu arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid. Ni wnaiff hyn ar ei ben ei hunan. Bydd gofyn am ymgysylltu â rhanddeiliaid ac asiantwyr gorfodi, a chydweithio â swyddogion yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill. Bydd y dull hwn o weithio yn arwain at lunio cynllun a fydd yn cael effaith barhaol ar safonau lles yn unol â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella iechyd anifeiliaid a safonau lles yng Nghymru.  

Bydd y pryderon a’r themâu newydd a nodwyd o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r cynllun trwyddedu a’i roi ar waith. Byddwn yn ymgysylltu’n ymhellach i sicrhau ein bod yn pennu diffiniad cywir ar gyfer arddangosfeydd teithiol o anifeiliaid.