Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad technegol diweddar ar y Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 drafft.

Mae'r Rheoliadau drafft yn ymwneud â’r modd yr ymdrinnir â rhai apeliadau ardrethu annomestig yn sgil pandemig Covid-19.  Bu’r ymgynghoriad yn agored am chwe wythnos o 16 Awst ymlaen a daeth i ben ar 27 Medi.  Ni chodwyd unrhyw faterion yn ymwneud ag agweddau technegol y rheoliadau.  Mae'r crynodeb o'r ymatebion ar gael yn: https://llyw.cymru/rheoliadau-prisio-ar-gyfer-ardrethu-cymru-coronafeirws-2021-drafft

Rwy'n bwriadu gwneud Rheoliadau yn y dyfodol agos fel yr amlinellir yn yr ymgynghoriad. Rwyf hefyd yn bwriadu gosod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Senedd, mewn perthynas â’r darpariaethau yn y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd), sy'n gymwys i Gymru, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.