Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 15 Hydref 2025 cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r adolygiad o drefniadau cymunedol Sir Benfro, a gynhaliwyd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Ar ôl ystyried ymhellach, rwyf wedi cael cyngor nad yw’r argymhellion yn ymwneud â chymunedau Nolton a'r Garn, Martletwy, Ystagbwll a Chastellmartin, a Phen-caer yn dod o fewn cwmpas yr adolygiad ac  ni fyddant yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn sydd i ddod a fydd yn gweithredu'r argymhellion sy'n weddill.

Bydd Cyngor Sir Penfro a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ystyried sut y gellid cyflwyno'r argymhellion penodol sy'n ymwneud â'r cymunedau hynny eto yn y dyfodol agos fel rhan o adolygiad o drefniadau etholiadol.